Dechrau craffu ar Fesur Drafft Cymru

David Jones a Paul Silk
Image caption Fe ddaw'r mesur drafft yn dilyn adroddiad Comisiwn Silk

Yn dilyn cyhoeddi Mesur Drafft Cymru ar ddiwedd 2013, mae Aelodau Seneddol yn dechrau'r gwaith o graffu ar fesur cyn iddo ddod yn ddeddf.

Mae'r mesur drafft, a gyhoeddwyd ar Ragfyr 18, yn cynnwys manylion am drosglwyddo mwy o bwerau benthyg a threthu i Fae Caerdydd.

Fe fydd aelodau'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan yn dechrau casglu tystiolaeth ar y mesur, allai hefyd arwain at refferendwm am roi'r hawl i Lywodraeth Cymru amrywio treth incwm yn y dyfodol.

Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig, sy'n cynnwys ASau o Gymru, yn craffu ar y manylion ac yn casglu tystiolaeth gan academyddion, arbenigwyr a gwleidyddion eraill.

Ymysg y bobl fydd yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor heddiw mae'r Athro Richard Wyn Jones a Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru a Gerry Holtham, sy'n rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru.

Gobaith llywodraeth y DU yw y bydd y mesur yn dod yn ddeddf cyn yr etholiad cyffredinol y 2015.

'Mantais gystadleuol'

Cred rhai o weinidogion San Steffan yw y bydd y ddeddfwriaeth yn gwneud Llywodraeth Cymru yn fwy atebol ac yn rhoi "mantais gystadleuol" i Gymru.

Bydd Llywodraeth Cymru nid yn unig yn cael benthyg arian am y tro cyntaf o ganlyniad i'r mesur yma, ond fe fyddai hefyd yn cael rheolaeth dros y dreth stamp, tir a thirlenwi.

Cyn i'r pŵer i amrywio cyfraddau treth incwm gael ei drosglwyddo bydd rhaid i Lywodraeth Cymru alw refferendwm.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron yn ddiweddar ei fod o blaid "ie ddwbl" - hynny yw ei fod eisiau gweld refferendwm yn cael ei chynnal ac eisiau gweld canlyniad positif yn y refferendwm.

Mae'r Ysgrifenydd Gwladol David Jones hefyd wedi dweud yr un fath.

Yn ogystal mae Aelodau Cynulliad o'r blaid Geidwadol, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud eu bod nhw o blaid.

Ond mae rhai o weinidogion Cymru yn credu y gallai'r polisi treth incwm fod yn rhyw fath o drap fyddai'n arwain at doriad yng nghyllideb Cymru gan y Trysorlys.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.