Gweinidog: cyhoeddiad am daliadau ffermwyr

Alun Davies
Image caption Roedd y cyhoeddiad yn y Senedd ym Mae Caerdydd

Mae ffermwyr Cymru wedi cael gwybod sut y bydd miliynau o bunnau o daliadau Ewropaidd yn cael eu rhannu ar gyfer y chwe blynedd nesaf.

Dywedodd y Gweindog Cyfoeth Naturiol Alun Davies mai'r nod fyddai rhoi diwydiant amaeth Cymru ar seiliau cadarn.

"Bydd strwythur newydd o daliadau," meddai, "fydd yn decach ac yn fwy tryloyw a chap ar y taliadau mwyaf."

Bydd y system newydd yn golygu bod ffermwyr yn cael eu talu ar sail arwynebedd eu tir yn lle ar sail taliadau hanesyddol.

Mae un undeb wedi dweud bod y cyhoeddiad yn "ergyd fawr".

Roedd cyhoeddiad y gweinidog yn y Senedd ym Mae Caerdydd wedi cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus gyda ffermwyr a thirfeddianwyr yng Nghymru.

Cafodd ei wneud yn wyneb llai o gyllideb o Ewrop drwy'r Polisi Amaeth Cyffredinol, a bydd y trefniadau newydd yn dod i rym ym mis Ionawr 2015.

'Mwy o gystadleuaeth'

Dywedodd y gweinidog y byddai newid trefn daliadau Colofn 1 (taliadau uniongyrchol) a mesurau atodol o dan Golofn 2 (y Rhaglen Ddatblygu Wledig) "yn arwain at fwy o gystadleuaeth, yn helpu ffermydd i drechu anawsterau a'u helpu i ymateb i gyfleon yn y farchnad."

"Mae'r penderfyniadau hyn ar bolisïau'r PAC yn ofnadwy o bwysig i Gymru," meddai.

"Byddan nhw'n cael effaith sylweddol ar y ffordd y byddwn yn datblygu'r diwydiant ffermio a rheoli ein hadnoddau naturiol hyd at 2020 a thu hwnt.

"Rydw i wedi gwrando'n astud ar sylwadau pawb yn ystod fy ymgynghoriad helaeth ac wedi ystyried y negeseuon pwysig yn Adolygiad Kevin Roberts o gadernid y diwydiant ffermio.

"Wrth edrych tua'r dyfodol, bydd system newydd o daliadau'n cael ei chyflwyno. Byddwn hefyd yn targedu camau gweithredu i wella busnesau fferm ac yn diwygio cynllun Glastir er mwyn rhoi gwell cymorth i amaethyddiaeth Cymru.

"Nod fy mhenderfyniadau yw gosod y diwydiant ffermio yn y sefyllfa orau bosibl i wynebu'r dyfodol yn hyderus.

"Bydd y newidiadau hyn yn arwain at ddiwydiant sy'n gallu gwneud yn fawr o gyfleoedd newydd, cynhyrchu mwy ac ymdopi'n well ag amgylchiadau eithriadol fel y tywydd gwael a gawson ni'r gwanwyn diwethaf."

'Ergyd fawr'

Yn ôl Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru Emyr Jones: "Mae'r cyhoeddiad yn ergyd fawr i nifer o ffermwyr fydd yn colli swm sylweddol o arian o dan y system newydd.

"Roedd yn rhaid i ni dderbyn y byddai pa bynnag system fyddai'n cael ei chyflwyno yn arwain at nifer fawr o fusnesau yn colli arian sylweddol."

Fe ddywedodd ei fod yn poeni'n benodol am leoliad llinell categori'r rhostiroedd, sef 400 metr uwchlaw'r môr.

Dywedodd Llywydd NFU Cymru Ed Bailey: "Y pwnc sy'n creu'r bygythiad mwyaf i allu cynhyrchu'r diwydiant amaeth yw penderfyniad y gweinidog fis diwethaf i gwtogi 15% o daliadau Colofn 1 y PAC cyn hyd yn oed dechrau'r trosglwyddiad i system daliadau wedi'i seilio ar arwynebedd tir.

"Fe fydd y cwtogiad yn effeithio ar daliadau sengl y fferm o 2014 ymlaen.

"Mae penderfyniad y gweinidog i fodiwleiddio ar raddfa uwch na gweddill Prydain a'n prif gystadleuwyr yn Ewrop yn gosod ffermwyr Cymru dan anfantais."

'Tryloyw'

"Drwy'r trefniadau newydd, caiff yr arian ei ddosbarthu mewn ffordd decach a mwy tryloyw a byddwn yn symud ymlaen oddi wrth y taliadau hanesyddol ac yn defnyddio a diogelu ein hadnoddau naturiol yn fwy effeithiol," meddai'r gweinidog.

Fe fydd y trefniadau newydd i Golofn 1 yn cael eu cyflwyno o 2015 ymlaen a byddan nhw'n:

  • Cyflwyno cynllun taliadau sylfaenol newydd dros gyfnod pontio pum mlynedd; bydd taliadau 2019 wedi'u seilio'n gyfan gwbl ar arwynebedd y tir sy'n cael ei ffermio;
  • Cyflwyno system dalu a chyfraddau talu dangosol sy'n seiliedig ar dri rhanbarth tir a ddynodwyd i adlewyrchu gwahanol lefelau o gynhyrchiant amaethyddol. Y rhanbarthau yw: Rhostir, y tir lleiaf cynhyrchiol: £16.50 yr hectar, Ardaloedd dan Anfantais Fawr: £166 yr hectar, ac iseldir ac Ardaloedd dan Anfantais, y tiroedd mwyaf cynhyrchiol: £200 yr hectar;
  • Cyfyngiadau ar daliadau mawr (capio);
  • Mabwysiadu cynigion gwyrddu'r Comisiwn Ewropeaidd, yn seiliedig ar gynnal glaswelltir parhaol, tyfu mwy o amrywiaeth o gnydau ac ardaloedd ag iddynt ffocws ecolegol.

Targedu

Daw'r penderfyniad diweddaraf hwn yn sgil cyhoeddiad y gweinidog ym mis Rhagfyr y byddai'n defnyddio'r Cynllun Datblygu Gwledig newydd i dargedu camau gweithredu mewn ymateb i her y setliad cyllideb y PAC o Ewrop ac y byddai'n trosglwyddo 15% o gyllideb y PAC o Golofn 1 (taliadau uniongyrchol) i Golofn 2 (y Rhaglen Datblygu Gwledig) ar gyfer 2014-2020.

Mae gan Gymru tua 16,000 o ffermwyr sy'n manteisio ar hyn o bryd ar daliadau Colofn 1.

Fe fydd penderfyniadau o fewn misoedd ynglŷn â manylion hawliau, gwyrddu a chymorth ychwanegol i ffermwyr ifanc.

Straeon perthnasol