Gatland yn enwi carfan Chwe Gwlad

Sam Warburton & Gethin Jenkins
Image caption Sam Warburton fydd y capten ar gyfer y gystadleuaeth, ond mae pryder am anaf Gethin Jenkins

Mae Warren Gatland wedi enwi ei garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae lle i Gethin Jenkins er pryder am anaf i'w ben glin, tra bod disgwyl i'r capten Sam Warburton fod yn holliach mewn "cwpl o wythnosau".

Bydd Cymru yn ceisio ennill y bencampwriaeth am y trydydd tro yn olynol eleni.

Mae Gatland yn dweud y bydd y gystadleuaeth yn "her fawr" i'r tîm, ond ei fod yn edrych ymlaen at ddechrau.

Dim capiau newydd

Cafodd Gethin Jenkins ei anafu wrth chwarae i'r Gleision yn erbyn Toulon dros y penwythnos.

Mae lle i'r prop yn y garfan, er pryderon am yr anaf.

Mae'n debyg mai maswyr y Gweilch, Dan Biggar, a'r Scarlets, Rhys Priestland fydd yn cystadlu i wisgo rhif 10 i Gymru, ond mae James Hook hefyd wedi ei enwi yn y garfan.

Bydd Sam Warburton yn parhau fel capten, gyda'r hyfforddwr yn obeithiol y bydd anaf i'w ysgwydd wedi gwella erbyn dechrau'r gystadleuaeth.

Mae Cymru wedi bod heb nifer o chwaraewyr yng nghanol y cae yn ddiweddar, ond mae Jamie Roberts a Jonathan Davies wedi eu cynnwys gan Gatland.

Does dim lle i fewnwr y Gleision Lloyd Williams, gyda Mike Phillips, Rhodri Williams a Rhys Webb wedi eu henwi yn lle.

'Her fawr'

Bydd Cymru yn chwarae'r Eidal ar Chwefror 1, cyn teithio i Iwerddon y penwythnos wedyn.

Mae tîm Gatland yn wynebu Ffrainc ar nos Wener, Chwefror 21, yna Lloegr yn Twickenham a'r Alban yng Nghaerdydd i orffen y gystadleuaeth.

Dywedodd Gatland, sy'n dychwelyd i hyfforddi Cymru yn llawn amser wedi ei gyfnod gyda'r Llewod, ei fod yn edrych ymlaen at her y bencampwriaeth.

"Roedd y llynedd yn wych ac mae'n gyffrous iawn cael bod yn ôl yn rhan o'r tîm eleni, a bydd y flwyddyn yma yn her fawr i ni," meddai.

"Mae ganddon ni dair gêm gartref a dwy gêm anodd oddi cartref, ond pan enillon ni'r gamp lawn yn 2008 a 2012 roedd ganddon ni'r un gemau, felly ry' ni'n gwybod ei bod hi'n bosib.

"Mae'r Chwe Gwlad yn gystadleuaeth anodd bob tro, mae angen dechrau da yn erbyn yr Eidal."

Blaenwyr:

Paul James (Caerfaddon), Gethin Jenkins (Gleision), Ryan Bevington (Gweilch), Richard Hibbard (Gweilch), Ken Owens (Scarlets), Emyr Phillips (Scarlets), Adam Jones (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Rhodri Jones (Scarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch), Luke Charteris (Perpignan), Ian Evans (Gweilch), Andrew Coombs (Dreigiau), Ryan Jones (Gweilch), Justin Tipuric (Gweilch), Sam Warburton Capt (Gleision), Toby Faletau (Dreigiau), Dan Lydiate (Racing Metro), Aaron Shingler (Scarlets)

Olwyr:

Rhodri Williams (Scarlets), Mike Phillips (Racing Metro), Rhys Webb (Gweilch), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Priestland (Scarlets), James Hook (Perpignan), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Racing Metro), Scott Williams (Scarlets), Alex Cuthbert (Gleision), George North (Northampton Saints), Leigh Halfpenny (Gleision), Liam Williams (Scarlets).

Straeon perthnasol