Cymru: 'Baw isa'r domen'

Gerry Holtham
Image caption Mae Mr Holtham yn cynghori Llywodraeth Cymru

Mae'r economegydd Gerry Holtham wedi dweud wrth bwyllgor Seneddol bod Cymru'n cael ei thrin fel "baw isa'r domen" gan San Steffan.

Yn ôl Mr Holtham dyw San Steffan ddim yn fodlon rhoi unrhywbeth i Gymru sydd heb gael ei roi i'r Alban yn barod.

Roedd Mr Holtham yn ateb cwestiynau ar y Mesur Cymru fel rhan o'r broses graffu.

"Mae gwendid mawr gyda'r mesur yma," meddai, "sy'n deillio o'r ffaith mai barn llywodraeth Prydain yw na ddylai Cymru gael unrhywbeth dyw'r Alban heb gael yn barod.

"Ni yw baw isa'r domen. Rydyn ni'n cael y pethau mae pobl eraill wedi ei gael a dydyn ni ddim, er mwyn Duw, yn gofyn am ddim byd yn wahanol."

'Ddim yn atyniadol'

Wrth ateb cwestiynau gan Aelodau Seneddol ar y Pwyllgor Materion Cymreig, dywedodd Mr Holtham hefyd y byddai Llywodraeth Cymru'n wirion i gynnal refferendwm y byddan nhw'n debygol o golli a fyddai ddim o fudd iddyn nhw hyd yn oed petai nhw'n ennill.

Cred Mr Holtham oedd na fyddai modd i Lywodraeth Cymru godi treth incwm heb golli arian, gan y byddai pobl gyfoethog yn symud i ffwrdd, a bod hynny'n golygu na fyddai'r pŵer i newid treth incwm yn cael ei ddefnyddio.

Mae llywodraeth San Steffan eisoes wedi dweud na fyddai gan Gymru hawl i newid cyfradd uchaf treth incwm heb newid pob cyfradd arall hefyd.

"Rydych chi'n gofyn i wleidyddion Cymreig ymladd refferendwm hawdd iawn i'w golli. Dyw treth ddim yn boblogaidd na chwaith gwleidyddion. Dyw hynny ddim yn deg ond fel yna y mae hi.

"Felly rydych chi'n gofyn iddyn nhw ymladd refferendwm y gallan nhw golli am bŵer treth fyddan nhw ddim yn gallu ei ddefnyddio. Dyw hynny ddim yn edrych yn atyniadol iawn i mi."

Roedd Richard Wyn Jones a Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru hefyd yn bresennol yn ystod y cyfarfod.

'Pam trafferthu?'

Doedd yr un ohonyn nhw chwaith yn credu bod pwrpas cynnal refferendwm, am resymau gwahanol.

Y rheswm pennaf dros hyn oedd oherwydd y byddai San Steffan yn atal Llywodraeth Cymru rhag gosod cyfraddau penodol.

Fe wnaeth Mr Scully ddadlau nad oedd angen cynnal refferendwm cyn trosglwyddo'r pwer dros dreth incwm, gan nad yw'n fater mae pobl yn poeni digon yn ei gylch.

Dywedodd nad oedd chwaith sail resymegol dros gynnal refferendwm, ac ychwanegodd: "Roedd safon adroddiad Comisiwn Silk yn uchel iawn, nes dod i'r rhan am y refferendwm.

"Roedd y safon bryd hynny'n disgyn i'r gwaelod."

Dywedodd AS Aberconwy Guto Bebb, gan chwerthin, mai'r rheswm am hyn oedd "dyna pryd ddaeth y wleidyddiaeth i fewn i'r peth".

Un rheswm pam roedd Athro Jones yn gwrthwynebu cynnal refferendwm fel mae pethau'n sefyll nawr, oedd mai unig bwrpas gwneud hynny o safbwynt Llywodraeth Cymru fyddai mai un canlyniad i bleidlais ie fyddai cynyddu swm yr arian fyddai ar gael iddyn nhw ei fenthyg.

"Pam fysech chi'n trafferthu?" gofynnodd yr Athro Jones, gan gyfeirio at alw refferendwm.

"Yr unig reswm dros wneud fyddai i wneud maint yr amlen fenthyg yn fwy.

"Ac mi fyddai cynnal refferendwm ar y sail yna yn anghywir."

Angen mwy o ACau?

Fe soniodd hefyd am ymchwil diweddar gan Undeb Sy'n Newid ar y cyd gyda Chymdeithas Newid Etholiadol Cymru oedd yn awgrymu y dylai nifer yr Aelodau Cynulliad gael ei gynyddu o 60 i 100.

"Mae 42 Aelod Cynulliad," meddai, "er mwyn gwneud yr holl waith sydd ei angen mewn termau craffu ac mae hwnna yn rif bach iawn, iawn mewn termau rhyngwladol.

"Mae o hefyd yn rif bach pan mae rhywun yn ystyried pwerau cymharol y Cynulliad.

"Yng Nghymru rŵan mae ganddon ni Lywodraeth Cymru sy'n gryf, sydd â chyllideb fawr iawn, sydd â phwerau helaeth, a'r cwestiwn ydi: ydi hi'n cael ei dwyn i gyfrif?

"All 42 aelod mainc cefn wneud hynny? Mae'r dystiolaeth yn awgrymu mai na yw yr ateb."

Straeon perthnasol