Heddlu'n dod o hyd i gorff mewn parc yng Ngogledd Caerdydd

Mae'r heddlu wedi dod o hyd i gorff mewn dŵr mewn parc yng ngogledd Caerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i Barc Hailey yng Ngogledd Llandaf amser cinio ddydd Mawrth.

Cafodd hofrennydd yr heddlu a phlismyn arbenigol eu defnyddio i helpu i gael y corff o'r dŵr.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Gall Heddlu De Cymru gadarnhau bod corff wedi ei ddarganfod yn yr Afon Taf, yn agos i Barc Hailey yng Nghaerdydd.

"Cafodd plismyn eu galw i'r ardal yn fuan wedi 2yh. Nid yw'r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol eto.

"Mae teulu dyn sydd ar goll, Ashley Wells, 26, o Gabalfa yng Nghaerdydd, wedi cael gwybod am y diweddaraf gan swyddogion."