Dwy gêm yn Uwchgynghrair Cymru

Uwchgynghrair Cymru Corbett Sports Image copyright FAW

Fe fydd rhaid i glwb pêl-droed Bangor aros am un gêm arall er mwyn sicrhau eu lle yn hanner uchaf Uwchgynghrair Cymru wedi iddyn nhw golli yn y Bala nos Fawrth.

Roedd angen pwynt yn unig arnyn nhw i sicrhau lle yn y chwech uchaf pan fydd y gynghrair yn rhannu'n ddau ddiwedd y mis.

Ond roedd un gôl yn ddigon i ennill y gêm i'r tîm cartref ar Faes Tegid wrth i Mark Connolly rwydo wedi 62 munud.

Roedd y gêm wedi ei ail threfnu wedi i'r tywydd drwg olygu gohirio'r gêm wreiddiol, ac roedd yr un peth yn wir am y gêm arall nos Fawrth rhwng Caerfyrddin a'r Seintiau Newydd.

Gan fod cyflwr cae Caerfyrddin yn parhau yn wael, bu'n rhaid chwarae'r gêm ar gae Port Talbot.

Gorffennodd y gêm yn ddi-sgôr, gan olygu fod y Seintiau Newydd bellach bum pwynt yn glir ar frig y tabl.

Mae'r Seintiau, Airbus UK Brychdyn a'r Drenewydd eisoes wedi sicrhau y byddan nhw yn yr hanner uchaf cyn ail hanner y tymor.

Mae pedwar clwb arall - Bangor, Caerfyrddin, Aberystwyth a'r Rhyl - yn dal yn y frwydr am y tri lle arall.

TABL UWCHGYNGHRAIR CYMRU CORBETT SPORTS
Gemau Pwyntiau
1. Y Seintiau Newydd 21 49
2. Airbus UK Brychdyn 20 44
3. Y Drenewydd 21 32
4. Bangor 21 31
5. Caerfyrddin 20 30
6. Aberystwyth 20 28
-------------------------------------------- ------------------------------- ------------------
7. Y Rhyl 21 28
8. Port Talbot 21 24
9. Y Bala 21 23
10. Prestatyn 21 21
11. Gap Cei Connah 20 17
12. Lido Afan 21 14

Straeon perthnasol