Achos Trinant: Cyhuddiad llofruddiaeth

Ian Davies
Image caption Roedd Ian Davies yn 27 oed

Mae Heddlu Gwent wedi cyhuddo dyn 26 oed o lofruddio dyn arall yn Nhrinant ger Trecelyn nos Sadwrn.

Bu farw Ian Davies, 27 oed, ar ôl ymosodiad honedig.

Mae disgwyl i'r dyn sydd wedi ei gyhuddo ymddangos ger bron ynadon Casnewydd dydd Mercher.

Cafodd tri o bobl eraill, dyn 26 oed a dwy ddynes 22 a 30 oed, oedd wedi eu harestio eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Straeon perthnasol