Dyn yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio Ian Davies

Ian Davies
Image caption Roedd Ian Davies yn 27 oed

Mae dyn wedi ymddangos o flaen llys wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn 27 oed yn Sir Caerffili.

Bu farw Ian Davies yn yr ysbyty wedi iddo gael ei anafu yn Nhrinant, ger Trecelyn ddydd Sadwrn.

Mae Paul Mapps, sy'n 27 ac o'r pentref, wedi ei gyhuddo o lofruddio Mr Davies.

Cadarnhaodd Mr Mapps ei enw a'i gyfeiriad yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Mercher.

Ni roddodd yr erlynydd, Rob Simkins, unrhyw fanylion am sut y cafodd Mr Davies ei anafu.

Bydd Mr Mapps yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd neu Chasnewydd yn y dyddiau nesaf.

Dywedodd Heddlu Gwent bod tri pherson arall gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddio, dyn 26 oed a dwy ddynes 22 a 30 oed, wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Straeon perthnasol