Ffatri ganabis mewn tŷ ym Mhort Talbot

Ffatri ganabis
Image caption Roedd 250 o blanhigion canabis yn y tŷ

Mae'r heddlu wedi dod o hyd i ffatri ganabis mewn tŷ ym Mhort Talbot.

Pan aeth yr heddlu i'r cyfeiriad ar Stryd King mi ddaethon nhw o hyd i dros 250 o blanhigion.

Roedd sawl stafell gydag offer ar gyfer tyfu'r cyffur, gan gynnwys goleuadau arbennig a ffaniau.

Mae dyn 29 oed oedd yn y tŷ wedi ei arestio a'i gyhuddo o drin canabis.

Bydd Mentor Meta yn ymddangos o flaen llys y goron Abertawe er mwyn cael clywed ei ddedfryd fis nesaf.

Dywedodd yr heddwas Dale Davies: "Mae'r neges yn glir. Os ydych chi yn ymwneud gyda gweithgareddau anghyfreithlon yn y gymuned mi ddewn ni i wybod am y peth ac mi fyddwn i yn gweithredu.

"Diolch i wybodaeth gan y cyhoedd rydyn ni wedi medru cau'r uned yma fyddai wedi medru cynhyrchu gwerth miliynau o bunnoedd o ganabis."