Damwain: teulu Christina Barchetti eisiau newid deddf

Calvin Connah
Image caption Cafodd Calvin Craig Connah ei garcharu am bum mlynedd

Mae teulu dynes fu farw gyda'i babi yn y groth mewn gwrthdrawiad ffordd wedi galw am newid y ddeddf i gydnabod marwolaethau babanod heb eu geni.

Cafodd Calvin Craig Connah, 22 oed o Goed-llai, Sir y Fflint, ei garcharu am bum mlynedd am achosi marwolaeth Christina Barchetti.

Mae ei theulu hi am i Connah gael ei erlyn am farwolaeth y babi nad oedd wedi ei eni, Bella, ond nid yw'r gyfraith yn caniatáu hynny.

Roedd Connah wedi gwadu achosi marwolaeth Ms Barchetti, 35 oed, drwy yrru'n beryglus ym mis Hydref 2012 ond roedd yn euog fis Rhagfyr y llynedd.

Clywodd y llys ei fod wedi bod yn gyrru car BMW ei dad ac wedi ceisio pasio car arall ar ddiwedd ffordd ddeuol.

Wrth iddo frecio'n galed, collodd reolaeth ar y car a tharodd gar Ms Barchetti.

Bu farw yn Ysbyty Maelor Wrecsam, lle'r oedd hi'n gweithio, ac roedd y babi'n farwanedig.

Dywedodd ei phartner Graham Clarke fod y teulu'n teimlo nad oedd y farwolaeth yn cyfri' yng ngolwg y gyfraith.

Image copyright Andrew price
Image caption Bu farw Christina Barchetti a'i babi yn y groth yn dilyn y gwrthdrawiad

"Rydym yn gweithio gyda'n AS lleol i geisio newid y gyfraith," meddai.

"Cafodd y dyn ei gyhuddo o un farwolaeth, un Christina.

"Ni gafodd ei gyhuddo o farwolaeth Bella er ei bod hi wedi ei geni drwy enedigaeth Cesaraidd a fe wnaethon ni ei dal hi yn ein breichiau.

"Ni chafodd gyfle i anadlu yn y byd mawr."

Dywedodd Mr Clarke ei fod yn barod i fynd â'r achos i'r Tŷ Cyffredin.

Straeon perthnasol