Canfod corff yn dilyn tân

Mae corff menyw oedrannus wedi cael ei ganfod yn dilyn tân mewn byngalo ym mhentref Carrog ger Corwen.

Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i'r eiddo yn dilyn adroddiadau o dân yno am 3:29pm.

Bu criwiau o Langollen yn defnyddio offer anadlu arbennig er mwyn mynd i mewn i'r byngalo.

Fe ddaethon nhw o hyd i gorff menyw 93 oed yn yr eiddo.

Mae'r gwasanaeth tân a Heddlu'r Gogledd wedi dechrau ymchwiliad ar y cyd i'r digwyddiad.