Mogliano 12-24 Dreigiau

Daeth dau gais i'r Dreigiau Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Daeth dau gais i'r Dreigiau yn yr Eidal

Mogliano 12-24 Dreigiau

Fe ddaeth buddugoliaeth i'r Dreigiau diolch i berfformiad grymus yn yr ail hanner yn Stadio Maurizio Quaggia.

Mewn hanner cyntaf braidd yn ddi-fflach, dim ond ciciau cosb a welwyd, gyda'r Eidalwyr yn sgorio tair (Fadalti) yn erbyn un yr ymwelwyr gan Steffan Jones.

Ond wedi'r egwyl fe ddangosodd y Dreigiau eu gallu gan sgorio dau gais.

Cyn hynny roedd Jones wedi unioni'r sgor gyda dwy gôl gosb arall, ond yna fe groesodd Wayne Evans o roi'r fantais i'r Dreigiau.

Sgoriodd Ross Wardle ail gais i'r ymwelwyr gyda'r eilydd Kris Burton yn trosi, ac er i Fadalti gau'r bwlch rhyw fymryn fe sgoriodd Burton gôl gosb arall cyn y diwedd.

Gorffennodd yr Eidalwyr y gêm gydag 13 o chwaraewyr wrth i Thorleif Halvorsen ac Edoardo Candiago weld cardiau melyn.