Damwain yn achosi traffig difrifol yng Nghaerdydd

Heddlu
Image caption Mae'r ddamwain wedi digwydd ar yr A4119 Heol Caerdydd.

Mae ffordd yn rhannol ar gau a thraffig trwm yn ardal Llandaf o'r Brifddinas yn dilyn damwain yn ystod cyfnod prysura'r dydd.

Mae damwain wedi bod rhwng car a bws ar yr A4119 Heol Caerdydd rhwng yr A48 Western Avenue/ Heol y Palas a Heol y Bont.

Mae'r gwasanaethau brys wedi cyrraedd y safle ger y fynedfa i Ysgol y Gadeirlan.

Yn ôl adroddiau mae Mini yn rhwystro dwy o'r bedair lôn ar y ffordd fewn i Gaerdydd.

Mae'r bws yn yr ail lôn o'r ddwy ar y ffordd allan o'r ddinas.

Mae'r ddamwain wedi arwain at draffig difrifol tu gyfeiriad Danescourt, Ystum Taf a Threganna.