Cynhadledd yn Llyfrgell Genedlaethol ar y Rhyfel Byd Cyntaf

Rhyfel Byd Cyntaf
Image caption Milwyr yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf

Sut y dylai Cymru gofio can mlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf?

Mewn cynhadledd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth mae cyfres o ddarlithiau, o dan y teitl Creithiau, wedi bod yn trafod agweddau ar y rhyfel.

Dywedodd Dr Paul O'Leary, o Brifysgol Aberystwyth, a gadeiriodd sesiynau'r prynhawn: "Mae'n anodd dychmygu cynhadledd fel hon yn Lloegr oherwydd canolbwyntio ar "aberth" ac "arwyr" y maen nhw yno.

'Teuluoedd'

"Mae'r coffáu yma'n canolbwyntio ar hanes teuluoedd yn hytrach na'r darlun ehangach.

"Yn yr Alban mi fyddan nhw'n dathlu 700 mlwyddiant buddugoliaeth brwydr Bannockburn yn ogystal â chynnal eu refferendwm annibyniaeth.

"Yn Iwerddon mae 1916 yn fwyddyn symbolaidd gyda Gwrthryfel y Pasg i Weriniaeth Iwerddon a brwydr y Somme yn bwysig i Gogledd Iwerddon oherwydd yr aberth "gwaed".

"Mae yna gymhlethdod o safbwyntiau gwahanol, mae'n gwestiwn eithaf sylfaenol sydd angen ei drafod."

Dywedodd Dr Gethin Matthews o Brifysgol Abertawe: "Myth busting ydi un o'r pethau dwi'n gobeithio y bydd hyn yn ei wneud, ymgais i symud i ffwrdd o'r ddadl mai bai y dosbathiadau uwch neu y Saeson oedd y rhyfel ... mae gennym ni duedd i adrodd yr un hen sgript ac efallai ei bod yn bryd symud i ffwrdd oddi wrth y sgript honno.

"Mae'n bwysig cael y cydbwysedd, dim gormod o neges Brydeinig ond hefyd peidio â bod yn or-blwyfol.

"Rhaid i ni goffáu'r rhai fu farw ond hefyd rhaid sylwi ar yr hyn newidiodd yn yn ein cymdeithas."

Papurau

Cyfeiriodd darlithwyr at adroddiadau papurau newydd y cyfnod oedd yn sôn am y drafodaeth yng Nghymru a thu hwnt.

Dywedodd Aled Eirug, sy'n gwneud doethuriaeth ym Mhrifsygol Caerdydd, fod papurau megis Tarian y Gweithwyr, Llais Llafur a'r Merthyr Pioneer yn gwrthwynebu'r rhyfel.

Ond dywedodd Ifor ap Glyn yn ei ddarlith am brofiadau Cymry America fod golygyddion papur Cymreig talaith Efrog Newydd, Y Drych, yn cefnogi'r rhyfel yn frwd.

Yn aml roedden nhw 'n dweud bod y Kaiser a'r Almaenwyr yn "Anghrist."

Roedd Y Drych yn cyhoeddi llythyrau perthnasau'r Cymry oedd ar faes y gad ac yn cefnogi trefniadau i anfon parseli o fwyd, dillad ac ati at y milwyr a'u teuluoedd.

Gyda dyfodiad Americanwyr Cadfridog Pershing i Ffrainc yn 1918, cyhoeddwyd llythyrau o'r ffosydd yn dangos sut roedd y Cymry'n ymdoddi i fyddin aml-ethnig America.

Newid i ferched

Roedd darlith Dr Dinah Evans, o Brifysgol Bangor yn dangos y newid ym myd merched dros blynyddoedd y rhyfel.

Gwirfoddolodd amryw o ferched Cymru, gan gynnwys Megan George, merch David Lloyd George, fel nyrsys adeg y rhyfel.

Yn eu plith roedd y Fonesig Boston o Ynys Môn oedd yn rhedeg ysbyty i filwyr ar lan Afon Tafwys.

Yn ôl Dr Evans, roedd yn gyfle i ferched dosbarth canol a gweithiol brofi mwy o ryddid drwy wirfoddoli fel nyrsys neu fynd ati i weithio weithio mewn ffatrïoedd.

Roedd y rhyfel yn "gatalydd" i weddnewid bywyd confensiynol merched.

Yn ei ddarlith disgrifiodd Dr Meilyr Emrys sut roedd cynghreiriau pêl-droed wedi ymateb am fod cymaint wedi mynd i ymladd yn y ffosydd.

Stopiodd y cystadlaethau a'r cynghreiriau dros gyfnod y rhyfel ond roedd gwylio'r gêm yn boblogaidd, ac fe dyfodd yn aruthrol wedi diwedd y rhyfel.

Trafododd Dr Martin Wright sefyllfa sosialaeth yn y wlad, gan ddangos diniweidrwydd cangen yn mwynhau picnic yn 1914 - heb feddwl bod rhyfel ar y gorwel ac yn poeni am y sefyllfa yn Iwerddon, pleidleisiau i bawb a chreu cysylltiadau rhyngwladol.

"Roedden nhw'n methu credu bod rhyfel wedi dechrau ac yn dweud nad oedd ganddynt unrhyw ffrae gyda gweithwyr Ewrop.

"Roedd rhai yn credu ar Awst 4 bod y system gyfalafol wedi methu, ac yn gweld egwyddorion sosialaeth yn ymddangos fel atebion."

Prydeinig

Prin 50 mlynedd ers i'r Wladfa cael ei chreu yn 1865 dechreuodd yr ymladd.

Dywedodd Dr Walter Ariel Brooks, sy'n dod o Batagonia, ei fod yn amau pa mor wir oedd y safbwynt fod yr ymfudo o Gymru i Batagonia yn golygu "ffoi rhag y Saeson."

Yn debyg i bapur y Drych yn America, meddai, roedd Y Dravod, papur Patagonia, yn cefnogi'r rhyfel.

Dywedodd fod adroddiadau'r papur yn awgrymu cymuned Brydeinig.

Mae'n debyg hefyd bod rhai o Gymry'r Ariannin wedi dod yn ôl i'r famwlad i ymuno â'r fyddin.

Er hynny, meddai, roedd rhai llythyrau yn Y Dravod o blaid edrych ar "ddwy ochr" y ddadl.

"Roedd Prydeindod yn rhan o'u hunaniaeth, roedd gan Batagonia lincs i'r llynges, gyda llongau yn ymweld yn aml."

Bydd y darlithoedd yn cael eu cynnwys mewn llyfr am y rhyfel a'i effeithiau ar Gymru fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2015 gan Wasg Prifysgol Cymru ac yn cael ei olygu gan Dr Matthews.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.