Kellogg's: Dim diswyddo gorfodol yn Wrecsam?

Kellogg's Wrecsam
Image caption Mae'r cwmni wedi dechrau ymgynghori

Mae undeb yn "weddol hyderus" na fydd colli 140 o swyddi yn ffatri Kellogg's yn Wrecsam yn golygu diswyddo gorfodol.

Yr wythnos nesa' mae undeb Usdaw, sy'n cynrychioli mwy na 400 o aelodau, yn trafod â'r cwmni sy' wedi dechrau proses ymgynghori 90 diwrnod oherwydd bod angen "anelu at fod yn fwy effeithlon."

Dywedodd swyddog Prydeinig yr undeb Dave Gill: "Rydyn ni'n weddol hyderus oherwydd yr ymgynghori y bydd llai o dan fygythiad ...

"Y nod yw cyflawni hyn drwy ddiswyddo gwirfoddol ac ymddeol yn gynnar."

Roedd Chris Hood Llywydd Kellogg's Ewrop wedi dweud: "Mae yna fwriad i sicrhau bod ein hasedau yn adlewyrchu gofynion cwsmeriaid.

"Oherwydd hynny rydym yn cymryd camau i sicrhau bod ein rhwydwaith gynhyrchu gyda'r rhif cywir o ffatrïoedd yn y llefydd cywir."

Yn Rhagfyr dywedodd cwmni Sharp y byddai 250 o swyddi parhaol a 365 o swyddi asiantaeth yn diflannu.

Mae 230 wedi colli eu swyddi yn ffatri First Milk ym Marchwiel.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.