Scarlets 20-22 Harlequins

Scarlets Image copyright Arall
Image caption Er gwaetha'r ymdrechion, mae'r gobeithion yn Ewrop wedi dod i ben.

Mae gobeithion y rhanbarthau yn Ewrop wedi dod i ben wrth i'r Scarlets golli i'r Harlequins.

Fe gafodd y Scarlets hwb yr wythnos diwetha' wrth drechu Racing Metro o 19-13 i ffwrdd.

Ond siomedig oedd y canlyniad ddydd Sul.

Yr eilydd Ben Botica seliodd fuddugoliaeth yr Harlequins sy'n golygu bod y Saeson yn cyrraedd wyth ola' Cwpan Her Amlin.

Botica, yr oedd ei dad Frano yn arfer chwarae i'r Scarlets, giciodd gic gosb wedi 77 o funudau.

Bydd yr Harlequins yn wynebu Stade Francais ym Mharis a'r ddau dîm chwaraeodd yng ngêm derfynol Cwpan Her Amlin yn 2011.

Straeon perthnasol