Ryan Jones allan o'r Chwe Gwlad gydag anaf

Ryan Jones Image copyright Getty Images

Bydd chwaraewr Cymru a'r Gweilch, Ryan Jones, yn methu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anaf i'w goes.

Cafodd Jones ei anafu wrth i'r Gweilch golli yn erbyn Leinster ddydd Gwener.

Tynnodd y chwaraewr rheng ôl allan o'r garfan ddydd Llun.

Fe all Cymru fod heb y canolwr Jonathan Davies am y rhan fwyaf o'r gystadleuaeth, ac mae pryder hefyd am y prop, Gethin Jenkins, sy'n dioddef gydag anaf i'w ben-glin.

Roedd rhaid i Jones adael y cae yn hanner cyntaf y gêm yn erbyn Leinster a welodd y Gweilch yn mynd allan o'r Cwpan Heineken.

Aeth o'r cae wedi iddo anafu llinyn y gar.

Mae disgwyl i'r clo, Ian Evans, fethu rhan o'r bencampwriaeth hefyd, wedi iddo gael ei yrru o'r cae yn yr un gêm.

Cafodd Evans gerdyn coch am sathru ar ben Mike McCarthy yn y sgarmes, ac fe all gael ei wahardd am y gemau nesaf.

Anaf i'w goes

Mewn datganiad, dywedodd Undeb Rygbi Cymru: "Mae Cymru wedi rhyddhau chwaraewr rheng ôl y Gweilch, Ryan Jones, yn ôl i'r rhanbarth oherwydd anaf.

"Daeth Jones i gwrdd â gweddill y garfan y bore 'ma wrth iddyn nhw ddechrau paratoi am Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ond ni fydd yn chwarae oherwydd ei anaf i linyn y gar.

"Cyd-chwaraewr Jones i'r Gweilch, James King, wnaeth chwarae am y tro cyntaf i Gymru yn erbyn Japan, sydd wedi cael ei alw i mewn i'r garfan."

Er bod digon o chwaraewyr all lenwi bwlch yn y rheng ôl i Gymru, mae profiad Jones a'i allu i chwarae yn yr ail reng hefyd yn ei wneud yn opsiwn pwysig yng ngharfan Warren Gatland.

Mae Jones wedi chwarae 75 o weithiau i Gymru, gan arwain y tîm ar 32 o'r achosion hynny.

Roedd yn gapten pan enillodd Cymru y gamp lawn yn 2008, a chwaraeodd ym mhob un o'r gemau wrth i Gymru gipio'r teitl eto yn 2012.

Straeon perthnasol