Yr ICC i symud i Forgannwg?

Stadiwm Swalec
Image caption Ai yn Stadiwm Swalec fydd pencadlys nesaf yr ICC?

Mae Clwb Criced Morgannwg wedi gwneud cais i Stadiwm Swalec gael ei ystyried fel pencadlys i'r Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC) o 2015 ymlaen.

Yn ôl y clwb mae'r cynnig yn un gafodd ei lunio ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.

Roedd adroddiadau eisoes yn awgrymu fod Caerdydd yn cael ei ystyried ac mae Singapore yn ogystal â Colombo, Sri Lanka hefyd wedi dangos diddordeb.

Cafodd pencadlys yr ICC ei symud o Lord's i Dubai yn 2005.

Mewn datganiad, dywedodd Clwb Criced Morgannwg: "Caerdydd oedd un o'r llefydd wnaeth gynnal Tlws Pencampwyr ICC yn 2013 yn ogystal ag un gêm yng Nghwpan y Byd ICC yn 1999, a'r gêm brawf Lludw gyntaf yng nghyfres 2009, yn dilyn datblygiad Gerddi Sophia i Stadiwm Swalec."

Y flwyddyn ddiwethaf fe wnaeth y Cynulliad lunio adroddiad mewn ymateb i ddeiseb oedd yn galw am greu tîm criced cenedlaethol i Gymru.

Straeon perthnasol