Prifysgolion yn colli miliynau

  • 21 Ionawr 2014
Myfyrwyr wedi graddio
Mae prifysgolion Cymru yn poeni y bydd mwy o fyfyrwyr, ac felly, mwy o arian, yn mynd dros y ffin.

Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall bod prifysgolion Cymru yn rhybuddio y byddan nhw'n colli miliynau o bunnau o nawdd Llywodraeth Cymru, yn sgil y cynnydd yn nifer y lleoedd ym mhrifysgolion Lloegr.

Ym mis Rhagfyr, fe gyhoeddodd y Canghellor, George Osborne, y byddai'r cap ar y nifer sy'n cael eu recriwtio gan brifysgolion Lloegr yn cael ei ddiddymu gan ganiatáu i brifysgolion recriwtio cymaint o fyfyrwyr ag yr hoffen nhw.

Yr amcangyfrif ydi y byddai 30,000 o leoedd ychwanegol ar gael ar gyfer 2014/15 a 60,000 yn 2015/16.

Mae myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru yn talu'r £3,500 cyntaf ar eu ffioedd dysgu gyda Llywodraeth y Cynulliad yn talu'r gweddill lle bynnag maen nhw'n penderfynu astudio ym Mhrydain.

Ar gyfartaledd, mae prifysgolion Lloegr yn codi tua £8,000 y flwyddyn mewn ffioedd, felly am bob myfyriwr o Gymru sy'n mynd i brifysgol dros y ffin, mae'n costio £4,500 i Lywodraeth Cymru.

Mae'r newid hwn yn golygu y gallai'r 7,370 o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf o Gymru sy'n mynd i astudio mewn rhannau eraill o Brydain fynd â mwy na £33 miliwn gyda nhw; arian y gallai fod wedi cael ei wario yn y sector addysg uwch yma.

£7.1 miliwn yn mynd i Loegr?

Mewn dogfen sydd wedi ei hanfon at Is-ganghellorion fe ddywed Addysg Uwch Cymru, y corff sy'n cynrychioli prifysgolion yma, fe allai £7.1 miliwn fynd i sefydliadau yn Lloegr erbyn 2015/16.

Mae'r papur, sydd wedi'i ddatgelu'n gyfrinachol i BBC Cymru, yn cyfri bod tua 2.5% o fyfyrwyr Lloegr yn dod o Gymru, ac felly erbyn 2015, fe allai 1,500 o fyfyrwyr ychwanegol adael i astudio dros y ffin.

Llynedd, dywedodd yr Athro Colin Riordan, Cadeirydd Addysg Uwch Cymru, wrth BBC Cymru petai grant y ffioedd dysgu yn cael ei wario yng Nghymru, fe allai gael ei ddefnyddio nid yn unig i wella eu cymwysterau ymchwil ond i wella'r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr.

Fe fynnodd yr Athro Riordan bod y Llywodraeth yn gwbl gefnogol o'r sector addysg uwch a bod eu nawdd wedi cynyddu'n flynyddol.

Ond fe allai mwy gael ei wneud gyda'r degau o filiynau o bunnau sydd, mewn gwirionedd, yn gadael y sector ac yn mynd tuag at brifysgolion yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

"Dyfalu yn unig yw hyn"

Ym mis Tachwedd, fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, y byddai arolwg pwysig i Addysg Uwch a chyllid myfyrwyr, gan fod angen edrych ar y sefyllfa ar adeg "o newid sydyn ac anrhagweladwy" sy'n wynebu prifysgolion.

Wrth ymateb i'r ddogfen sydd wedi'i datgelu gan Addysg Uwch Cymru, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gall unrhyw asesiad o effaith y newid polisi yn Lloegr ar Gymru fod yn ddamcaniaethu a dyfalu yn unig ar y pwynt yma.

"Fydd newid i niferoedd myfyrwyr yn Lloegr ddim o reidrwydd yn golygu cynnydd yn niferoedd y myfyrwyr o Gymru sy'n dewis astudio yn Lloegr. Dyfalu yn unig yw hyn."

Dywedodd y Llywodraeth eu bod yn dal i ystyried goblygiadau cyhoeddiad y Canghellor ar recriwtio myfyrwyr, ac y byddan nhw mewn safle gwell i ymateb ymhellach pan fyddan nhw'n gwybod mwy, ond yn y cyfamser, does dim i awgrymu y bydd ceisiadau i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn cael eu heffeithio.

"Yn 2014-15, bydd dros £362m ar gael i Brifysgolion Cymreig drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

"Mae adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru yn cadarnhau y bydd yr incwm i'r sector addysg uwch yng Nghymru yn parhau i dyfu - o £1.26 biliwn yn 2011/12 i £1.45 biliwn yn 2015/16 er gwaetha'r toriadau sydd wedi'u gosod arnom gan Lywodraeth y DU."

'Amcangyfrifon bras'

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn pwysleisio bod mwy o arian yn dod i mewn i Brifysgolion Cymru drwy fyfyrwyr o Loegr nag sydd yn gadael Cymru a bod sefydliadau yma yn derbyn cynnydd uwchlaw chwyddiant yn y nawdd bob blwyddyn.

Mae cyfarwyddwr Addysg Uwch Cymru, Amanda Wilkinson, wedi dweud mai "amcangyfrifon bras dros dro" oedd y ffigyrau drafft yn y ddogfen, "wedi'u llunio yn syth wedi Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU, ac wedi'u seilio ar y wybodaeth oedd ar gael ar y pryd."

"Mae dadansoddiad o effaith symudiadau traws-ffiniol myfyrwyr yn dal yn y cyfnod cynnar ac fe fydd yn cael ei ystyried ymhellach yn y misoedd nesaf, felly fe ddylai unrhyw ddarogan gael ei drin gyda gofal."

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas AC, bod y newid yn enghraifft arall i ddangos nad yw polisi ffioedd myfyrwyr Llywodraeth Cymru yn gynnaladwy.

"Mae prifysgolion Cymru yn colli mas ar arian oherwydd polisi'r llywodraeth," meddai.

"Mae Plaid Cymru yn credu y dylai'r adolygiad a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg y llynedd adrodd yn ôl cyn gynted a phosib i sicrhau fod pobl yn gwybod beth yw polisïau'r pleidiau gwleidyddol ar gyfer etholiad Cenedlaethol Cymru yn 2016."