Galw'r heddlu i ffrae chwaraewyr

Chico Flores Image copyright Getty Images
Image caption Roedd Chico Flores yn rhan o'r dadlau ddeuddydd cyn iddo rwydo i'w gôl ei hun dros y penwythnos

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau bod yr heddlu wedi cael eu galw i faes ymarfer y clwb yn dilyn ffrae rhwng y ddau amddiffynwr Chico Flores a Garry Monk.

Digwyddodd y ffrae ar Ionawr 17 - deuddydd cyn i Flores rwydo i'w gôl ei hun wrth i'r clwb golli i Tottenham Hotspur.

Yn ôl y clwb, aelod o'r cyhoedd ffoniodd yr heddlu, ond fe benderfynon nhw nad oedd angen gweithredu pellach.

Dywedodd llefarydd ar ran y clwb: "Rydym wedi delio gyda'r mater yn fewnol.

"Fe gafodd Chico Flores a Garry Monk eiriau croes yn y ganolfan ymarfer, ond dyw hynny ddim yn beth anghyffredin ymysg chwaraewyr mewn meysydd ymarfer ar draws y wlad.

"Ond doedd dim bygythiadau na gwrthdaro rhwng y ddau chwaraewr dan sylw."

Mae'r pwysau ar y clwb yn cynyddu wedi i Abertawe golli tair gêm yn olynol. Dydyn nhw heb ennill gêm yn yr Uwchgynghrair ers Rhagfyr 3 y llynedd.

Mae tîm Michael Laudrup bellach driphwynt yn unig oddi ar waelod y tabl, ac fe fyddan nhw'n wynebu nifer o'r timau o'u cwmpas - Fulham, West Ham, Caerdydd a Stoke - yn ystod mis Chwefror.