Southport 1 - 2 Wrecsam

Joe Anyinsah
Image caption Roedd ymdrech Anyinsah yn haeddu curo'r gêm i Wrecsam

Fe sgoriodd Joe Anyinsah gôl hwyr i gipio buddugoliaeth i Wrecsam yn Haig Avenue.

Y tim cartref aeth ar y blaen wedi pedair munud diolch i beniad gan Scott Brown.

Mark Carrington oedd ar fai am ei ymgais wael i glirio'r bêl.

Fe wnaeth Dave Artell hi'n gyfartal ddeng munud yn ddiweddarach gyda pheniad o gic gornel Mark Carrington.

Yn yr ail hanner fe ddaeth Andy Bishop a Theo Bailey-Jones yn agos cyn i ymdrech Anyinsah o bellter sicrhau'r pwyntiau i'r Dreigiau.

Mae Wrecsam bellach yn 12fed yn y tabl.