Enwi cerddorion Jazz Aberhonddu

Loose Tubes Image copyright Allan Titmuss
Image caption Fe fydd y Loose Tubes yn ail-ymgynnull wedi bwlch o 24 blynedd; fe berfformion nhw yn Ngŵyl Aberhonddu ym 1985.

Mae Laura Mvula a Loose Tubes ymlith y cerddorion fydd yn perffomio yng Ngŵyl Jazz Aberhonddu eleni.

Mi fydd yr Ŵyl yn dathlu'i phen-blwydd yn 30 oed eleni rhwng Awst 8 a 10.

Yno bydd y trwmpedwr Wareen Vaché, a'r band lleol Mike Harries and the Root Doctors yn perfformio, rhai oedd yn yr ŵyl gyntaf ym 1984.

Yno hefyd fydd y Loose Tubes, band sy'n ail-ymgynnull wedi bwlch o 24 blynedd - fe berfformion nhw yn Aberhonddu ym 1985.

Y tro hwn, fe fydd y band 12 dyn, o dan arweiniad y cerddor a'r cyfansoddwr, Django Bates, yn cynnwys nifer o dalentau'r byd jazz, gan gynnwys Iain Ballamy, Julian Argüelles, Martin France, Chris Batchelor, Eddie Parker ac Ashley Slater.

Enw mawr

Hefyd yn perfformio yng Ngŵyl 2014 fydd un o lwyddiannau mawr y byd cerddoriaeth, Laura Mvula.

Mae hi wedi cael ei henwebu am wobr Mercury, wedi cipio teitlau'r act fenywaidd orau a'r artist soul orau yng ngwobrau MOBO 2013, ac wedi cyrraedd y 10 uchaf am ei halbwm gyntaf, Sing to the Moon.

Yn ôl y trefnwyr: "Fe gawsom ni flwyddyn dda yn 2013 gyda chynnydd o 20% yn y tocynnau gafodd eu gwerthu ac rydym yn gobeithio adeiladu ar y momentwm yn ystod blwyddyn dathlu yr ŵyl ryngwladol hon.

"Rydym yn cyhoeddi rhai o'r enwau'n gynnar a'r nod ydi y bydd y tocynnau ar gael drwy'r wefan erbyn diwedd Chwefror."

Llynedd fe ddaeth yr ŵyl i ben yn Neuadd y Farchnad gyda Jools Holland a'i Rhythm and Blues Orchestra yn Neuadd y Farchnad wedi perfformiadau dros y penwythnos gan Phronesis, Zoe Rahman a The Impossible Gentlemen.

Fe ddatblygodd yr ŵyl oherwydd syniad gwreiddiol yn Hydref 1983 gan Gymdeithas Gelfyddydau Brycheiniog.

Ers ei sefydlu, mae cerddorion fel Sonny Rollins, Wynton Marsalis, Stephane Grappelli, Cleo Laine ac Amy Winehouse wedi perfformio yno, gan ddenu dros filiwn o bobl.

Fe fydd y rhaglen lawn yn cael ei chyhoeddi ar Chwefror 26.