14 blynedd o garchar i Gymraes am smyglo

Andrea Waldeck Image copyright AFP/Getty Images
Image caption Daeth yr heddlu o hyd i dri phwys o gyffuriau wedi'u cuddio yn nillad isaf Andrea Waldeck

Mae menyw sy'n wreiddiol o Gymru wedi cael ei charcharu am 14 blynedd yn Indonesia am smyglo tri phwys o'r cyffur crystal methamphetamine i mewn i'r wlad.

Cafwyd Andrea Waldek, 43 oed o Dalgarth ym Mhowys, yn euog ac fe gafodd hefyd ddirwy o £100,000.

Roedd ei chyfreithiwr wedi dweud wrth y llys ei bod wedi cael ei defnyddio gan gang o smyglwyr cyffuriau.

Roedd dyfalu y gallai Waldeck wedi wynebu'r gosb eithaf wedi iddi gael ei harestio mewn gwesty yn Java yn Ebrill y llynedd.

Dywedodd hithau wrth lys yn ninas Surabaya ei bod wedi cael ei gorfodi i gario'r cyffuriau i'r wlad o China.

Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd Waldeck ei dedfrydu mewn llys yn ninas Surabaya

Daeth yr heddlu o hyd i'r cyffuriau wedi eu cuddio yn nillad isaf Waldeck mewn bagiau du.

Er bod gan Indonesia rhai o'r cyfreithiau gwrth-gyffuriau mwyaf llym yn y byd, nid yw'r gosb eithaf yn cael ei defnyddio'n aml yno bellach.

Dywedodd cyfreithiwr Waldeck, Roberto Kaligis, ei bod hi wedi synnu at y ddedfryd ac wedi gobeithio am lai, ond ychwanegodd nad oedd penderfyniad eto os fydd yn apelio yn erbyn y ddedfryd.

Ond yn Indonesia mae'r system gyfreithiol yn golygu y gall llys uwch roi cosb lymach na'r llys gwreiddiol, felly fe fydd angen ystyried apêl yn ofalus.

Cyn iddi deithio i'r dwyrain bu Waldeck yn gweithio fel swyddog gyda Heddlu Sir Gaerloyw tan fis Chwefror 2012.

Straeon perthnasol