Enw Da

Dydw i ddim yn un am frolio gan amlaf ond roeddwn i'n weddol o agos ati gyda'm mhroffwydoliaeth ynghylch argymhellion Comisiwn Williams. Bant a ni felly gyda chynghorau Cymru am gael ei hadrefni am y trydydd tro mewn deugain mlynedd.

Mae pryd y bydd hynny'n digwydd yn fater arall. Mae Carwyn Jones yn cyfaddef na fydd fawr ddim yn digwydd cyn etholiad 2016 oni cheir cytundeb gydag o leiaf un o'r gwrthbleidiau.

Gallwn ddiystyru'r Ceidwadwyr bron cyn dechrau. Dim ond person naïf iawn fyddai'n credu y byddai Paul Davies, Angela Burns a Nick Ramsay yn fodlon amddiffyn diddymu Penfro a Mynwy i'w etholwyr. Dyw'r peth ddim am ddigwydd.

Mae 'na fwy o obaith gan Carwyn wrth geisio argyhoeddi Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol - ond dim llawer. Mae'n weddol amlwg i mi y byddai cefnogaeth y naill blaid a'r llall yn ddibynnol ar gyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol mewn etholiadau lleol - a does dim gobaith mul gan Carwyn argyhoeddi ei blaid ei hun bod y pris hwnnw'n werth ei dalu.

Fe gawn weld beth ddigwyddiff ond rwy'n amau mai ar ôl etholiad 2016 y bydd pethau'n dechrau symud go iawn - er y gallai rhai cynghorau ddechrau symud tug at uno'n wirfoddol cyn hynny.

Wrth i adrefni godi ei ben unwaith yn rhagor mae 'na gwestiwn sy'n codi'n anorfod - fel nos yn dilyn bydd. "Beth ar y ddaear ydyn ni'n mynd i alw'r llefydd yma?" yw hwnnw.

Yn ôl yn y saithdegau caniatawyd i'r cynghorau newydd ddewis eu henwau eu hun gan arwain at ambell i benderfyniad diddorol. Dyna i chi wŷr Gwent yn penderfynu anrhydeddu'r Parch William Thomas trwy arddel ei enw barddol "Islwyn". Draw yng ngorllewin Morgannwg roedd Afan yn apelio at ambell i gynghorydd rhamantus nes i ddryswch rhwng hwnnw ac Avon yn Lloegr arwain at arddel "Port Talbot" yn ei lle.

Yn y nawdegau oddi fry y daeth yr enwau a digon diddychymyg yw'r rhan fwyaf ohonyn nhw.

Cawn weld beth yw'r drefn y tro yma ond pe bawn i'n cael fy ffordd fe fyddai Gwent Uwch Goed a Gwent Is Goed yn ail-ymddangos ar fap Cymru ynghyd â Blaenau Morgannwg a Dyfed. Mae enwau posib i siroedd newydd y gogledd yn anoddach gyda diflaniad afon Conwy fel ffin hanesyddol.

Gwynedd, am wn i fyddai'r sir gorllewinol ac fe fyddai Sir Fflint yn gwneud y tro yn y dwyrain. Mae uno Conwy a Sir Ddinbych yn fwy o broblem. Does dim enw amlwg yn fy nharo i. Efallai mai dilyn esiampl Islwyn fyddai orau ac anrhydeddu llenor lleol. Fe fyddai honna'n wobr dda y tro nesaf mae'r Eisteddfod yn y cylch!