Wylfa Newydd: Hysbysebu swyddi

Wylfa
Image caption Ar gyfer y swyddi ar Ynys Môn, roedd y cwmni'n dweud y byddai'r "gallu i siarad Cymraeg" yn fantais.

Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am brosiect Wylfa Newydd wedi hysbysebu nifer o swyddi ar Ynys Môn.

Dywedodd Horizon eu bod nhw'n chwilio am beirianwyr a datblygwyr gyda phrofiad o reoli prosiectau mawr.

Ar gyfer y swyddi ar Ynys Môn, roedd y cwmni'n dweud y byddai'r "gallu i siarad Cymraeg, neu'r brwdfrydedd i ddysgu" yn fantais.

Meddai llefarydd ar ran y cwmni mai bychan yw'r nifer o swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd, ond bydd y nifer yn cynyddu yn ystod y misoedd i ddod.

Ddechrau'r mis, daeth cadarnhad y byddai rheoleiddwyr yn dechrau ar yr ail gam o asesu adweithydd atomfa niwclear Wylfa Newydd.

Y cam nesa' fydd asesu'r dyluniad o ran arbenigedd dechnegol ond gallai'r rhan hon o'r broses gymryd hyd at bedair blynedd.

Straeon perthnasol