Gwahardd cynghorydd Llais Gwynedd am sylwadau ar flog

Cyngor Gwynedd
Image caption Mae Mr Jones wedi ei wahardd o Gyngor Gwynedd tan Ebrill 2014

Mae cynghorydd yng Ngwynedd wedi ei wahardd am dri mis am sylwadau wnaeth o ar flog ar y we.

Cafodd Aeron Jones, sy'n cynrychioli Llais Gwynedd yn Llanwnda ei wahardd gan bwyllgor safonau'r cyngor ym mis Medi 2012, yn dilyn cwyn am sylwadau a wnaeth am flogiwr Plaid Cymru.

Fe wnaeth Mr Jones apelio yn erbyn y penderfyniad i Banel Dyfarnu Cymru, ond ni chafodd ei apel ei dderbyn.

Bydd y gwaharddiad yn parhau tan Ebrill 21, 2014.

Penderfynodd y pwyllgor bod Mr Jones wedi torri côd ymddygiad y cyngor yn ei sylwadau am flogiwr Plaid Cymru.

Dyma'r ail dro i Mr Jones gael ei wahardd gan y cyngor, wedi iddo gael ei ddisgyblu am sylwadau gwahanol ar ei flog yn 2011.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.