Carchar am saith mlynedd am ladrata ym Mhenygroes

Gwilym Anthony Owen Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Y diffynnydd: Gwilym Owen

Mae dyn aeth yn ôl i siop fetio Bob Jones ym Mhenygroes, Gwynedd, a dweud nad oedd wedi lladrata yno'r diwrnod cynt wedi ei garcharu am saith mlynedd.

Clywodd y llys fod staff yn adnabod Gwilym Owen, 43 oed o Lanllyfni oherwydd ei fod wedi bod yno bob diwrnod o'r wythnos cyn y drosedd.

Yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug clywodd y rheithgor ei fod dan bwysau i dalu dyled oedd yn ymwneud â chyffuriau.

Am 2pm ar Fai 17 yn 2013 aeth i mewn i'r siop fetio ym Mhenygroes yn gwisgo mwgwd a chario bat.

Er nad oedd ymosododiad ar y gweithiwr fe gafodd hi fraw cyn i Owen fynd adref ar ei feic gyda £2,140.

Cyfadde'

Yn ddiweddarach, aeth i'r heddlu a chyfadde' ei fod wedi troseddu.

Mae wedi ysgrifennu llythyr yn ymddiheuro i'r gweithiwr, Shereen Jackson.

Pan chwiliodd yr heddlu ei dŷ, daethon nhw o hyd i gocên oedd yn werth £1,450 yr oedd yn ei gadw gyda'r bwriad o'i ddosbarthu.

Hefyd daethon nhw o hyd i gyfarpar yn ymwneud a chocên.

Cafodd bedair blynedd am ladrata a thair blynedd am y troseddau cyffuriau.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.