Ceri y ci achubwyd o'r afon gan Ceri y plismones

Ceri y Ci Image copyright Wales News Service
Image caption Ceri y ci gyda'r swyddog a'i hachubodd hi o'r afon, PC Ceri Hassall

Mae ci bach wedi cael ei henwi ar ôl y swyddog heddlu achubodd hi o'r afon Rhondda.

Gwelodd PC Ceri Hassall, sy'n hoff o anifeiliaid, y ci yn pasio heibio i orsaf heddlu Porth yn yr afon.

Perswadiodd PC Hassall ei chyd swyddogion i'w helpu wrth fynd i mewn i'r afon i achub "Ceri" y cynllwyngi (Lurcher).

Tynnwyd y ci o'r dŵr ac fe'i cludwyd at filfeddyg.

Roedd y ci bach wedi cael ei hanafu yn ei phen gan beled o ddryll awyr a oedd wedi mynd trwy ei phenglog.

Angen cartref

Dywedodd Beverley Price o elusen anifeiliaid yr Ymddiriedolaeth Cŵn: "Mae'n wyrth bod y ci wedi gallu byw trwy'r fath hunllef.

"Er bod ganddi anafiadau difrifol, mae hi wedi gwella ar ôl iddi gael triniaeth.

"Dwi wedi gweld rhai achosion difrifol o greulondeb dros y 25 mlynedd diwethaf ond dwi just ddim yn deall sut ma' rywun wedi gwneud rhywbeth mor ddideimlad.

"Er hyn mae hi yn dal i fod yn hoff o bobl ac unwaith roedd hi'n holliach, fe ddaeth yn gi bach hapus llawn egni sydd yn byw bywyd i'r eithaf."

Ychwanegodd: "Mae hi'n gi gwych - mae pawb sydd wedi edrych ar ei hôl wedi disgyn mewn cariad gyda hi, ac ar ôl bob dim mae hi wedi byw trwyddo, rydym yn gobeithio dod o hyd i gartref cariadus iddi hi am weddill ei bywyd."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.