Berget yn ymuno â Chaerdydd

Jo Inge Berget Image copyright Getty Images
Image caption Nid yw'r clwb wedi dweud faint gafodd ei dalu am Berget, sy'n gallu chwarae yng nghanol y cae neu fel ymosodwr.

Mae Ole Gunnar Solskjær wedi arwyddo ei drydydd chwaraewr fel rheolwr Caerdydd, wrth i Jo Inge Berget ymuno o Molde.

Berget, 23, yw'r trydydd o Norwy i ymuno a Solskjær yng Nghaerdydd, wedi i Magnus Wolff Eikrem a Mats Moller Daehli arwyddo hefyd.

Nid yw'r clwb wedi dweud faint gafodd ei dalu am Berget, sy'n gallu chwarae yng nghanol y cae neu fel ymosodwr.

Dywedodd Solskjær ddydd Gwener nad oedd Berget wedi cael prawf meddygol eto.

Ymunodd Berget â Molde yn 2011, wedi iddo symud o glwb Udinese yn yr Eidal.

Roedd ei gytundeb yn Norwy yn dod i ben ar ddiwedd y tymor ac mae'r rheolwr yn hyderus y bydd yn llwyddo yn ei glwb newydd.

"Mae'n deall y ffordd rydw i am chwarae, mae'n gryf ac yn glyfar," meddai Solskjær.

Image copyright Reuters
Image caption Mae disgwyl i Wilfried Zaha gael prawf meddygol ddydd Gwener

"Sgoriodd yn erbyn tîm dan-21 Lloegr ym Mhencampwriaeth Ewrop a bydd yn gwneud yn dda gyda ni."

Zaha ar fenthyg?

Yn y cyfamser, mae disgwyl i asgellwr Manchester United, Wilfried Zaha gael prawf meddygol yng Nghaerdydd ddydd Gwener.

Y gred yw bod y ddau glwb yn parhau i drafod trosglwyddiad dros dro i Zaha, 21, tan ddiwedd y tymor.

Ers symud i Manchester United o Crystal Palace am £15m yn 2013, nid yw'r chwaraewr ifanc wedi cael llawer o gyfle yn y tîm cyntaf yn Old Trafford.

Mae Caerdydd ar waelod yr Uwchgynghrair ar hyn o bryd, ac maen nhw'n teithio i Bolton i chwarae ym mhedwaredd rownd Cwpan yr FA ddydd Sadwrn.

Straeon perthnasol