Nigel Evans yn pledio'n ddieuog

Nigel Evans
Image caption Mae Nigel Evans (canol) yn parhau i weithio fel AS annibynnol

Mae cyn ddirprwy lefarydd Tŷ'r Cyffredin wedi pledio'n ddieuog i naw chyhuddiad o droseddau rhywiol yn erbyn saith dyn.

Cafodd aelod seneddol Ribble Valley, sy'n wreiddiol o Abertawe, ei gyhuddo o ddau achos o ymosodiadau anweddus, chwech o ymosodiad rhywiol ac un o dreisio.

Mae'r cyhuddiadau'n dyddio nôl i'r cyfnod rhwng 2002 a 2013.

Ymddangosodd Mr Evans yn Llys y Goron Preston, ac fe gafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth ar yr amod nad yw'n cysylltu gydag unrhyw un o'r tystion yn uniongyrchol.

Bydd yr achos llawn yn ei erbyn yn dechrau ar Fawrth 10 eleni.

Roedd Mr Evans, sy'n 55, yn ddirprwy lefarydd yn Nhŷ'r Cyffredin cyn iddo gael ei gyhuddo o'r naw trosedd.

Fe ymddiswyddodd o'r swydd honno wedi iddo gael ei gyhuddo - mae'n parhau i gynrychioli ei etholaeth, Ribble Valley, ond bellach fel aelod annibynnol.

Mr Evans sydd wedi bod yn cynrychioli Ribble Valley yn San Steffan ers 1992.

Straeon perthnasol