Cyffuriau: Tri wedi eu harestio yn ardal Castell-nedd

Heddlu
Image caption Tri wedi eu harestio wedi ymchwiliad i dyfu a gwerthu cyffuriau yn ardal Castell-nedd.

Wedi iddynt dderbyn gwybodaeth gan y cyhoedd am gyffuriau yn ardal Castell-nedd, mae Heddlu De Cymru wedi cynnal nifer o gyrchoedd gan arestio dau ddyn a dynes.

Ar ddydd Mercher, Ionawr 22, arestiwyd dyn 35 oed yng Nglyn-nedd ar amheuaeth o gynhyrchu canabis, a daeth yr heddlu o hyd i offer hydroponeg yn y tŷ.

Fe fydd y dyn yn ymddangos yn Llys Ynadon Castell-nedd ar Chwefror 4.

Yna ddydd Iau, Ionawr 23, aeth yr heddlu i dŷ yn Heol Coedcae yng Nghwmllynfell, Cwm Tawe, lle arestiwyd dyn 39 oed a dynes 33 oed ar amheuaeth o feddu ar gyffur dosbarth B gyda'r bwriad o'i ddosbarthu.

Darganfuwyd cyffuriau y credir iddyn nhw fod yn ganabis a mephedrone wrth chwilio'r tŷ.

Mae'r ddau wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.

Dywedodd Sarjant Andy Abrahams: "Oherwydd i ni dderbyn gwybodaeth gan y gymuned roeddem yn gallu gweithio gyda'r hyn adroddwyd i ni a pharatoi gwys i ymchwilio'r cyfeiriadau dan sylw."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.