Ymgais i atal carreg derfyn rhag dymchwel

Carreg derfyn Loggerheads Image copyright Denbighshire council
Image caption Ymddangosodd craciau yn y garreg derfyn yn dilyn sawl gaeaf caled

Mae'r gwaith wedi dechrau i geisio atal carreg derfyn hanesyddol sy'n nodi'r ffin rhwng Sir Ddinbych a Sir y Fflint rhag dymchwel.

Roedd craciau wedi ymddangos yn y garreg a'r plac sydd arni, ac roedd mewn perygl o ddisgyn i'r ffordd ym Mharc Gwledig Loggerheads ger Yr Wyddgrug.

Mae'n cael ei hadnewyddu a'i diogelu gan saer maen lleol.

Cafodd y garreg ei sefydlu yn 1763 er mwyn datrys anghydfod rhwng dau dirfeddiannwr lleol, a chredir mai dyna oedd tarddiad yr enw 'Loggerheads'.

Roedd Ystad Grosvenor ac Arglwyddi'r Wyddgrug mewn dadl ffyrnig am hawliau dros y tir, gan arwain at achos yn yr Uchel Lys. Penderfynodd y llys o blaid yr Arglwyddi.

Fe gafodd y garreg derfyn ei gosod yno i ddangos y ffin.

'Gaeafau caled'

Roedd wardeniaid y parc gwledig wedi sylwi bod y plac wedi dod yn rhydd, a bod y garreg ei hun wedi cracio.

Dywedodd Glyn Williams, Warden Bryniau Clwyd ac Ardal o Harddwch Naturiol Neilltuol (AHNN) Dyffryn Dyfrdwy: "Roedd y garreg a'r plac ar fin disgyn i ganol y llwybr cerdded gerllaw.

"Mae'r gaeafau caled diweddar wedi gadael eu hôl ar y strwythur gan greu craciau mor fawr fel eu bod yn tanseilio'r holl beth."

Mae'r AHNN wedi sicrhau cyllid i adnewyddu'r gofeb, ac wedi cyflogi'r saer maen lleol Jason Wyn i wneud y gwaith. Mae disgwyl i'r gwaith bara am ychydig fisoedd.

Cafodd y garreg derfyn dros ben carreg hŷn, sef Carn March Arthur. Yn ôl y chwedl, mae'r garreg hon yn dangos y man lle glaniodd carnau ceffyl y Brenin Arthur wrth neidio o ben mynydd Moel Famau.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.