Cytundeb canolog i Warburton

Sam Warburton Image copyright Getty Images
Image caption Warburton yw'r cyntaf i arwyddo cytundeb canolog - bydd yn cael chwarae i'r Gleision heb i'r rhanbarth orfod talu dime goch iddo

Sam Warburton yw'r chwaraewr cyntaf o Gymru i arwyddo cytundeb canolog newydd gydag Undeb Rygbi Cymru.

Fe fydd Warburton yn parhau i chwarae i'r Gleision o dan amodau'r cytundeb newydd sy'n torri tir newydd i rygbi Cymru mewn cyfnod cythryblus i'r gamp.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru bod y cytundeb yn lansiad o drefniant newydd i gadw chwaraewyr allweddol yn chwarae gyda rhanbarthau Cymru.

Yn ôl y trefniant fe fydd Warburton yn cael ei rhyddhau i chwarae i'r Gleision pan nad yw ar ddyletswydd gyda Chymru, a hynny heb gost o gwbl i'r Gleision.

Mae'r cytundeb hefyd yn sicrhau y bydd ar gael i'r tîm cenedlaethol, ond nid yw'n sicrhau lle yn y tîm na'r garfan iddo.

Undeb Rygbi Cymru fydd yn talu cyflog y chwaraewr yn gyfan gwbl yn ystod cyfnod y cytundeb, gan olygu y bydd y Gleision yn medru buddsoddi yn y rhanbarth.

'Rhaid gweithredu'

Dywedodd Sam Warburton: "Rwyf wrth fy modd yn medru ymrwymo fy nyfodol i rygbi Cymru, a hoffwn ddiolch i Undeb Rygbi Cymru am ei hymrwymiad i mi.

"Nawr bod fy nyfodol wedi ei sicrhau yng Nghymru, rwy'n edrych ymlaen at ganolbwyntio ar Bencampwriaeth y Chwe Gwlad a thu hwnt."

Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru Roger Lewis: "Ni all rygbi Cymru sefyll yn ôl a gwylio'i chwaraewyr gorau yn gadael y wlad. Rhaid gweithio gyda'n gilydd a gweithredu nawr er lles y gêm.

"Nid oes neges well i chwaraewyr rhyngwladol y dyfodol a'r presennol na phenderfyniad Sam Warburton i fod yr un cyntaf i arwyddo cytundeb canolog gydag Undeb Rygbi Cymru ac ymrwymo i rygbi rhanbarthol a rhyngwladol yng Nghymru.

"Mae hon wedi bod yn wythnos arwyddocaol i rygbi Cymru wrth i ddau gapten y Llewod - Alun Wyn Jones a Sam Warburton - yn ymrwymo i aros yng Nghymru."

Fe fydd rhai yn gofyn pam fod yr undeb wedi aros tan nawr i gyflwyno'r drefn newydd.

Mae wyth o chwaraewyr Cymru eisoes wedi symud i chwarae yn Ffrainc - Leigh Halfpenny oedd y diweddaraf i wneud hynny yr wythnos ddiwethaf - ac mae dau arall yn chwarae eu rygbi yn Lloegr.

Yn y cyfamser cadarnhaodd yr Undeb y bydd trafodaethau pellach gyda Chyngor y Chwe Gwlad ddydd Llun am gytundeb am gystadlaethau Ewropeaidd, ac mae trafodaethau gyda RRW - y corff sy'n cynrychioli'r pedwar rhanbarth rygbi yng Nghymru - parhau mewn modd positif.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.