Bristol Rovers 3-1 Casnewydd

Clwb Pêl-droed Casnewydd Image copyright Other

Bristol Rovers 3-1 Casnewydd

Siom gafodd Casnewydd ar daith i Fryste wrth iddyn nhw golli yn adran dau o'r gynghrair b'nawn Sadwrn.

Cafodd y difrod ei wneud bob ochr i'r egwyl. Aeth y tîm cartref ar y blaen gyda gôl Kaid Mohammed wedi 45 munud i sicrhau'r fantais.

Yna fe ddaeth yr ail o fewn tri munud i ddechrau'r ail hanner o ergyd Eliot Richards.

Brywdrodd yr ymwelwyr yn galed, a daeth gobaith pan ddaeth Ryan Burge o hyd i Rene Howe yn y cwrt cosbi.

Sgoriodd Howe i gau'r bwlch ac yn sicr roedd Casnewydd yn cael mwy o feddiant ac ergydion at y gôl am gyfnod hir.

Ond yna gyda munud yn weddill fe darodd John-Joe O'Toole ergyd o ugain llath i gornel y rhwyd, ac adfer y fantais o ddwy gôl i Rovers.

Mae'r canlyniad yn gadael Casnewydd yn wythfed yn y tabl, ac mae yna bellach fwlch o saith pwynt rhyngddyn nhw a Southend yn y safleoedd ail gyfle.