Rhybudd i baratoi am lifogydd

Aberystwyth Image copyright Mark Lewis
Image caption Fe welodd Aberystwyth peth o'r tywydd gwaethaf yng Nghymru ddechrau'r mis

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybuddion i fod yn barod am lifogydd mewn ardaloedd ar draws Cymru.

Fe ddaw'r rhybuddion wrth i'r Swyddfa Dywydd ddarogan mwy o gawodydd gaeafol dros nos Sul a dydd Llun.

Gallai'r cawodydd hynny droi'n eira ar dir uchel ac fe fydd hi hefyd yn teimlo'n oerach, gyda gwyntoedd cryfion ger yr arfordir.

Fore Llun roedd nifer o rybuddion i fod yn barod am lifogydd ar draws Cymru.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi bod y gwynt yn harbwr y dre' wedi cyrraedd cyflymder o rwng 64-73 m.y.a. fore Sul er eu bod wedi gostegu rhywfaint wedi hynny.

Roedd gwyntoedd pellach dros nos Sul gydag eirlaw neu eira mewn mannau hyd yn oed ar dir isel.

Fore Llun roedd y gwyntoedd cryf yn parhau, yn enwedig mewn ardaloedd arfordirol.

Mae disgwyl y tywydd gwaetha' yn y gorllewin, ac fe allai mannau dwyreiniol weld cyfnodau heulog hyd yn oed.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.