Cymru heb Jenkins yn erbyn yr Eidal

Gethin Jenkins Image copyright Huw Evans picture agency

Ni fydd prop Cymru Gethin Jenkins yn holliach i chwarae gêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Cafodd Jenkins ei gynnwys yn y garfan mewn gobaith y byddai'n gwella, ond nid yw wedi llwyddo i wella i chwarae yn erbyn yr Eidal.

Does dim penderfyniad am Sam Warburton hyd yn hyn, wrth i gapten Cymru geisio gwella o anaf i'w ysgwydd.

Bydd penderfyniad am Warburton fore Mawrth, pan fydd Warren Gatland yn enwi ei dîm yn llawn.

Dydy Warburton heb chwarae ers mis Tachwedd 2013 oherwydd yr anaf, ond fe allai ddychwelyd i chwarae'r Azzurri yn Stadiwm y Mileniwm.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Jake Ball wedi ymuno a'r garfan wedi gwaharddiad Ian Evans

Mae Cymru yn mynd i fod heb Ian Evans am y gystadleuaeth gyfan, wedi iddo gael ei wahardd am sathru wrth chwarae i'r Gweilch yn gynharach yn y mis.

Mae clo ifanc y Scarlets, Jake Ball wedi ei alw i mewn i'r garfan yn lle Evans, ac fe allai ennill ei gap cyntaf yn ystod y bencampwriaeth.

Y gred yw y bydd y canolwr Jonathan Davies yn methu rhan o'r gystadleuaeth gydag anaf i'w ysgwydd.

Ni fydd Ryan Jones yn chwarae rhan chwaith, wedi iddo gadarnhau ei fod yn tynnu yn ôl o'r garfan oherwydd anaf.

Mae Ryan Jones yn cyfrannu llawer o brofiad i'r garfan, ac mae'n debyg y bydd ei golli yn rhoi mwy o bwyslais ar Warburton i arwain y tîm.

Mae Warburton wedi bod yn destun beirniadaeth yn ddiweddar am arwyddo cytundeb canolog gydag Undeb Rygbi Cymru, y cyntaf o'i fath.

Image caption Mae rhai wedi beirniadu Sam Warburton am arwyddo cytundeb canolog gyda'r Undeb

Ar wefan Twitter, dywedodd rhai ei fod wedi "bradychu" ei ranbarth a'i gyd chwaraewyr, a dangos diffyg ffyddlondeb.

Mae hynny er iddo ddewis peidio symud i glwb yn Ffrainc lle byddai wedi ennill dwywaith gymaint o arian, yn ôl ei asiant.

Bydd y cytundeb yn golygu bod capten Cymru yn cael ei roi ar fenthyg yn ôl i'r Gleision, os bydd yr Undeb a'r rhanbarthau yn dod i gytundeb gyda'i gilydd.

Ond os na fydd hynny yn digwydd, does dim sicrwydd gyda pha glwb ac ym mha gystadleuaeth y byddai Warburton yn chwarae ynddo'r tymor nesaf.

Dywedodd cyn chwaraewr Cymru, Martin Williams, bod y cytundeb yn gosod "cynsail peryglus" at y dyfodol.

Er ei fod yn falch bod y capten yn aros yng Nghymru, mae'n pryderu bod cytundebau o'r fath yn rhoi chwaraewyr eraill mewn sefyllfa anodd wrth benderfynu ar eu dyfodol.

Straeon perthnasol