Digwyddiad mewn tŷ ym Mhrestatyn drosodd yn heddychlon

Yr heddlu ar Ffordd Trevor, Prestatyn
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i stryd ym Mhrestatyn fore Llun

Ar ôl bron i chwe awr daeth digwyddiad yn Sir Ddinbych i ben.

Am 9.37yb cafodd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a'r gwasanaethau brys eraill eu galw i'r tŷ ar Stryd Trevor ym Mhrestatyn.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y digwyddiad wedi dod i ben am 3.30yh.

Mae dyn 39 oed, sy'n swyddog gyda Heddlu Swydd Gaer, wedi mynd gydag aelod o'i deulu i gyfeiriad sydd heb ei ddatgelu.

Yn gynharach roedd adroddiadau bod ffrwgwd wedi bod ac mae'n debyg fod dyn yn gwrthod gadael y tŷ.

Roedd plismyn wedi cau'r ardal i ffwrdd er mwyn diogelu'r cyhoedd tra bod arbenigwyr yn cynnal trafodaethau er mwyn dod a'r sefyllfa i ben yn heddychlon.

Meddai'r Uwch-Arolygydd Peter Newton : "Dwi'n ddiolchgar i'r trigolion lleol am ddeall a'u chydweithrediad, a dwi'n hapus dweud bod bob dim yn normal eto.

"Rydym wedi cyrraedd ein hamcan o ddiogelu'r cyhoedd, ein staff a'r preswylydd."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.