Un wedi marw mewn damwain ar yr A487 yng Ngheredigion

Mae un person wedi marw, a dau arall wedi cael eu cludo i'r ysbyty, yn dilyn damwain ffordd ddifrifol ar yr A487 yng Ngheredigion fore Llun.

Cafodd criwiau tân o Aberystwyth ac Aberaeron eu galw ychydig cyn 9:00yb wedi'r ddamwain rhwng tri cherbyd.

Roedd y ffordd ynghau rhwng Llanrhystud a Heol Non, ger Llanon, am gyfnod.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.