Cyffuriau: Tri o Ynys Môn wedi eu cyhuddo

Mae tri ar Ynys Môn wedi cael eu cyhuddo o droseddau yn ymwneud â chyffuriau.

Bydd dynes 47 oed a dau ddyn 27 oed a 28 oed gerbron Llys Ynadon Caergybi ar Chwefror 20.

Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â chadw, cynhyrchu a dosbarthu canabis a dosbarthu cocên.

Cafodd y tri eu harestio yn dilyn cyrch Ymgyrch Sgorpion ym mis Tachwedd 2013.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Arwyn Jones: "Roedd yr ymgyrch yn rhan o Ymgyrch Sgorpion wedi i ni gael gwybodaeth am gynhyrchu a dosbarthu cyffuriau yn y sir.

"Mi fyddwn yn parhau i ymateb i bryderon y gymuned ac yn targedu'r rhai sy'n troseddu ..."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.