Economi: Arwyddion o gynnydd

Llundain Image copyright Getty Images
Image caption Mae Llundain yn gyfrifol am ganran uchel o'r cynnydd

Fe wnaeth yr economi dyfu 0.7% yn chwarter olaf 2013, yn ôl ffigurau sydd newydd eu rhyddhau gan Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol - yr ONS.

Fe wnaeth mesur cynnyrch - GDP, gynyddu 1.9% yn ystod y flwyddyn - y cynnydd mwyaf ers 2007.

Mae'r ffigyrau yn cael eu gweld fel rhai cadarnhaol, ond yn dal i fod yn is na'r cyfnod cyn dechrau'r argyfwng ariannol.

Yn 2007 roedd yna gynnydd o 3.4% yn y raddfa GDP.

Fe wnaeth y sector gwasanaethau gynyddu 0.8% yn chwarter olaf 2013.

Ond bu gostyngiad bychan yn lefel cynnyrch diwydiannol, lawr o 0.8% i 0.7%.

Bu cwymp hefyd o 0.3% yn y sector adeiladu.

Dywedodd yr economegydd, Ken Richards, fod y ffigyrau yn dangos fod yna rhywfaint o barhad yn y tyfiant economaidd.

"Y broblem gyda'r ffigurau yma ydi bod Llundain yn cymryd siâr uchel iawn o'r tyfiant ac os edrychwch chi ar be' sy wedi tyfu, gwariant personol sy' wedi codi," meddai ar raglen y Post Cynta Radio Cymru.

"Yn hytrach, beth oedd y canghellor George Osborne am ei weld oedd mwy o fuddsoddiad a mwy o allforion."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.