Lloyds: swyddi'n diflannu yng Nghymru

Mae grŵp bancio Lloyds wedi dweud bod 82 o swyddi'n diflannu yng Nghymru fel rhan o doriadau ehangach.

Dywedodd y cwmni y byddai 1,080 o swyddi yn diflannu yn y DU.

Yng Nghymru bydd tua 60 o reolwyr yn y sector bancio masnachol, sy'n gweithio dros Gymru i gyd yn lle mewn un ganolfan, yn colli eu swyddi.

Hefyd, bydd 21 o swyddi yn diflannu yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd, a bydd 12 o swyddi yn cael eu cynnig i gwmnïau eraill.

O'r 1,080 o swyddi, bydd cyfrifoldeb am tua 300 yn symud i gwmnïau eraill.

Dywedodd Lloyds fod y newidiadau'n rhan o adolygiad strategol ac y byddai trafodaethau gyda staff yn "ofalus a sensitif".

Byddai'r toriadau, meddai, yn rhannol drwy ddiswyddiadau gwirfoddol.