Elyrch yn curo, Adar Gleision yn colli

Image copyright BBC Sport
Image caption Cafodd Mata ddechrau da i'w yrfa yng ngogledd Lloegr

Manchester United 2 - 0 Caerdydd

Roedd Caerdydd yn gwybod fod her sylweddol yn eu hwynebu yn Old Trafford - er nad yw tîm Moyes yn cyrraedd uchelfannau adeg Alex Ferguson, maen nhw dal yn dîm o safon.

Daeth y gôl gyntaf ar ôl pum munud.

Yn dilyn pasio taclus yng nghanol y cae, croesodd Ashley Young yn gywir gan ddarganfod pen Valencia yn y cwrt cosbi.

Daeth ei ymdrech oddi ar y bar ac fe lwyddodd David Marshall i gadw ymdrech Van Persie allan. Ond wnaeth o ddim cael gwared ar y bel yn llwyr, ac fe wnaeth Van Persie ddim camgymeriad yr ail dro.

Chwarter awr wedi hanner amser, daeth yr ail gôl, ac roedd pethau'n edrych yn ddu i Gaerdydd.

Cafodd Ashley Young afael ar y bel ar yr asgell chwith, ac wedi pasio un amddiffynnydd, ac yna un arall, taniodd y bêl o ryw 25 llath ac fe hedfanodd i gefn y rhwyd.

Fe wnaeth Caerdydd chwarae'n dda rhwng y ddwy gôl, ond roedd rhagoriaeth y pencampwyr yn ormod iddyn nhw yn y diwedd.

Abertawe 2 - 0 Fulham

Image copyright PA
Image caption Mae llawer yn ystyried Shelvey i fod yn rhan bwysig o dîm yr Elyrch

Roedd hi'n hanner cyntaf cystadleuol, gyda Fulham yn disgleirio ar adegau ond methu a throi eu chwarae da fewn i gyfleoedd.

Jonjo Shelvey ddaeth agosaf ond fe wnaeth y traws sicrhau mai di-sgôr fyddai pethau ar yr hanner amser.

Daeth y gôl gyntaf ar ôl 61 munud - Shelvey eto'n achosi'r perygl ac yn canfod cefn y rhwyd gydag ergyd bwerus.

Roedd Jonathan De Guzman yn cael gêm dda a'i gic rydd o wnaeth arwain at ail gôl yr Elyrch.

Llwyddodd i'w glanio ar ben Chico Flores, wnaeth ei gwneud hi'n ddwy i ddim.

Bydd yr Elyrch yn teithio i West Ham ddydd Sadwrn.