Wrecsam 2 - 0 Tamworth

Andy Bishop
Image caption Cafodd Andy Bishop gêm ddiddorol

Mae Wrecsam bellach bump pwynt i ffwrdd o'r safleoedd ail gyfle ar ôl buddugoliaeth bwysig yn erbyn Tamworth.

Fe roddodd beniad Andy Bishop y Dreigiau ar y blaen yn dilyn croesiad gan Neil Ashton, a doedd hynny ddim mwy nag yr oedden nhw'n haeddu.

Daeth Nick Chadwick yn agos i'r ymwelwyr yn fuan wedyn ond daeth y bêl ôl oddi ar y trawst.

Cafodd Wrecsam gic o'r smotyn ddeng munud o'r diwedd ond llwyddodd Belford i arbed, gyda Andy Bishop yn gwybod y dylai fod wedi gwneud yn well.

Ond doedd dim ots am hynny yn y diwedd - gwnaeth gôl Johnny Hunt yn siwr o hynny. Daeth yr ail yn dilyn pas gan Bishop, oedd yn falch i adfer ei enw da wedi ei gamgymeriad.