Achos llofruddiaeth: tystiolaeth chwaer Joanna Hall

Joanna Hall Image copyright Dyfed Powys Police
Image caption Clywodd y llys ei bod hi'n anwesu ei chi ar y soffa pan aeth y diffynnyd i Sainsbury's

Yn Llys y Goron Abertawe mae dyn wedi ei gyhuddo o drywanu ei gariad fwy na 40 o weithiau wedi dweud "ei bod hi'n gwaedu llawer" pan ddaeth e'n ôl o'r archfarchnad.

Mae Steven Williams, 30 oed o Ddinbych y Pysgod, yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.

Roedd Joanna Hall o Ddinbych y Pysgod wedi dweud mai Mr Williams ymosododd arni yn yr ysbyty cyn iddi farw dair wythnos yn ddiweddarach.

Dywedodd y diffynnydd iddo gael panig a'i gorchuddio hi â duvet yn ei chartre' yn Ninbych y Pysgod.

Ond ni alwodd ambiwlans na'r heddlu.

Clywodd y llys iddo fynd i Sainsbury's am 7:30am ar Fawrth 16 a bod Ms Hall yn anwesu ei chi ar y soffa.

Ond pan gyrhaeddodd yn ôl ychydig wedyn, meddai, roedd hi wedi ei hanafu.

"Ro'dd hi ar y llawr, yn gwaedu llawer. Ar y dechre wnes i feddwl ei bod hi wedi trio niweidio ei hunan.

"Ges i banig."

Mae'r achos yn parhau.

Straeon perthnasol