Cerbydau'n gaeth mewn llifogydd

Llifogydd
Image caption Roedd lefel y dŵr yn Llandrinio wedi codi i 6.7m fore Mercher

Roedd cerbydau yn gaeth mewn llifogydd ger Pont Llandrinio ym Mhowys y bore ma.

Fe wnaeth criwiau'r frigad dân gal eu galw i helpu 3 cerbyd.

Dywed y gwasanaeth tân nad oedd neb yn gaeth yn eu ceir ond bod y dwr yn cyrraedd lefel y wast.

Fe ddaeth yr alwad tua 6.50 fore Mercher, ac fe anfonwyd criwiau o'r Trallwng ac Aberystwyth i helpu yn ogystal â thîm achub dŵr arbenigol.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru fod lefel y dŵr yn Llandrinio y bore ma yn 6.7 metr ac yn codi'n araf.

Mae lefel arferol yr afon rhwng 1.2m â 5.1m.

Mae disgwyl iddo gyrraedd ei lefel uchaf yn yr oriau nesaf.

Roedd dau rybudd am lifogydd am 7.30 bore Mercher, a phosibilrwydd o lifogydd ar 7 afon arall, y Teifi, y Gwy, Dyfi, y Fyrnwy, Tanat a'r afon Cain, yr Hafren a de Penfro.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.