Aberystwyth ac Airbus yn colli pwyntiau

Uwch Gynghrair Cymru

Mae clwb pêl-droed Aberystwyth wedi colli tri o bwyntiau am gynnwys chwaraewr dan waharddiad yn eu gêm yn erbyn Cei Connah ddechrau Ionawr.

Mewn gwrandawiad o banel disgyblu Uwch Gynghrair Cymru ar Ionawr 28, cafodd Aberystwyth ddirwy o £250 a cholli tri phwynt o'u cyfanswm y tymor hwn.

Mae clwb Airbus hefyd wedi eu disgyblu am dorri rheolau cofrestru mewn cysylltiad â Andy Jones.

Cafodd Airbus rybudd am eu hymddygiad yn y dyfodol, a bydd rhaid talu dirwy o £425.

Collodd y clwb un pwynt o'u cyfanswm yn Uwch Gynghrair Cymru.

Mae gan y ddau glwb tan Chwefror 7 i apelio.

Mae cosb Aberystwyth yn agor i drws i glwb y Rhyl sicrhau lle yn y chwe safle uchaf pan fydd yr uwchgynghrair yn rhannu'n ddwy ddiwedd y mis.

Roedd Aber bedwar pwynt yn glir o'r Rhyl, ac un gêm oedd yn weddill i'r Gwynion. Pwynt yn unig yw'r bwlch bellach, ac os fydd y Rhyl yn curo Port Talbot yn y gêm olaf, fe fyddan nhw'n dwyn lle Aberystwyth yn yr hanner uchaf.