Galwadau i ostwng tollau pont Hafren gan wleidyddion

Hafren
Image caption Mae mwy na 80,000 o gerbydau yn croesi pont Hafren yn ddyddiol

Mae galwadau traws-bleidiol am ostwng tollau pont Hafren yn sylweddol pan y bydd y cyfrifoldeb am godi'r arian yn cael ei drosglwyddo i lywodraeth Prydain ar ôl 2018.

Mae mwy na 80,000 o gerbydau yn defnyddio'r bont yn ddyddiol gyda'r pris yn amrywio o £6.40 i gar i £19.20 i lori.

Cwmni preifat sydd yn casglu'r arian ar hyn o bryd ac mae'r pres yna wedyn yn cael ei ddefnyddio i dalu costau adeiladu'r pontydd. Mae disgwyl i'r ddyled gael ei chlirio erbyn 2018. Adeg hynny bydd y llywodraeth yn gyfrifol am y bont.

Gyda'r etholiad cyffredinol yn agosau mae 'na bwysau cynyddol ar y pleidiau gwleidyddol i ddatgan eu safbwynt.

Mae AS Llafur ar gyfer Dwyrain Casnewydd, Jessica Morden wedi dweud wrth raglen BBC Sunday Politics bod angen newidiadau.

"Fe fydden i yn hoffi gweld pris y tollau yn gostwng a bod yna ryw fath o hyblygrwydd yn y system.

"Bydden i yn hoffi eu gweld nhw'n fwy modern fel bod modd i ni roi consesiwn i bobl sydd yn byw yn lleol, cynnig teithio ar gyfnodau llai prysur i fusnesau a bod TAW ddim yn rhan o doll y bont fel bod modd gostwng y pris y ffordd yna."

Yr un pris i bawb?

Dywedodd yr AC Ceidwadol Nick Ramsay, sy'n cynrychioli ei blaid ar faterion busnes:

"Dw i'n credu byddai modd cael rhyw fath o falans gyda phawb yn talu'r un peth. Fe fyddai gyda chi ostyngiad yn y tollau... a gallai beth bynnag fyddai yn weddill gael ei ddefnyddio ar gyfer adeiladwaith neu i gynnal a chadw'r bont."

Mae Plaid Cymru yn galw ar y tollau i gael eu lleihau i £2 ar gyfer pobl sydd efo ceir ac mae'r Democratiaid Rhyddfrydol eisiau "gostyngiad sylweddol" yn y pris.

Mae'r cwmni pecynnu Tri-Wall o Sir Fynwy yn gwario tua £16,000 y flwyddyn ar dalu'r tollau i groesi'r bont, yn ôl eu rheolwr masnachol Alan Williams.

"Mae'n golygu costau ychwanegol i ni ac weithiau mae'n golygu bod ein cwmni teithio ni yn trafeilio nôl ffordd arall, ac weithiau yn dod yn ôl o dde orllewin Lloegr trwy Gaerloyw yn hytrach na chroesi nôl i mewn i Gymru," meddai.

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am fod yn gyfrifol am benderfynu pris y tollau.

Costau wedi 2018

Ond mae llywodraeth San Steffan wedi dweud efallai y bydd yna gostau i'w talu hyd yn oed ar ôl i'r ddyled ddod i ben yn 2018.

Mewn datganiad mae'r adran drafnidiaeth wedi dweud nad oes penderfyniad wedi ei wneud ynglŷn â'r dyfodol eto.

"Er hynny mae'r llywodraeth wedi datgan yn glir y bydd angen ystyried ad-dalu costau'r llywodraeth, costau cynnal a chadw ac adlewyrchu disgwyliadau pobl ar y ffyrdd yng Nghymru a Lloegr wrth feddwl am drefniadau i'r dyfodol.

"Dydyn ni ddim yn cynnig newidiadau ynglŷn â phwy sydd yn gyfrifol am y bont ar hyn o bryd."

Mae Sunday Politics ar BBC 1 Cymru Wales am 11yb ddydd Sul.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.