Eira: Bwlch yr Oernant wedi ailagor

Mae Bwlch yr Oernant yn Llangollen wedi ailagor.

Bu ynghau am gyfnod ddydd Gwener wedi i gar droi ben i waered yn yr eira ar ochr Llandegla i'r Bwlch, ger caffi Ponderosa.

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw yno amser cinio, ac fe gafodd y ffordd ei chau am 12.25yh.