Cymru am greu hanes yn y Chwe Gwlad

Jamie Roberts Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Jamie Roberts am weld Cymru yn chwarae hefo hyder wrth ddechrau eu hymgyrch yn erbyn yr Eidal

Bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch i geisio gwneud hanes ddydd Sadwrn, pan fyddan nhw'n wynebu'r Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae tîm Warren Gatland yn ceisio ennill y bencampwriaeth am y drydydd flwyddyn yn olynol, rhywbeth sydd erioed wedi ei gyflawni ers dechrau'r gystadleuaeth yn 1883.

Mae Gatland yn ôl wrth y llyw wedi iddo fethu'r gystadleuaeth y llynedd yn hyfforddi'r Llewod, ac mae'r chwaraewyr wedi rhoi eu ffydd ynddo i arwain y tîm i fuddugoliaeth hanesyddol eleni.

Ond ni fydd yn dasg hawdd curo'r Eidal, lwyddodd i drechu Ffrainc ac Iwerddon yn 2013.

Sêr yn ôl yn y tîm

Mae'n dîm cyfarwydd iawn fydd yn dechrau'r gêm brynhawn Sadwrn, gyda nifer o sêr wedi eu cynnwys.

Mae Leigh Halfpenny yn tynnu crys Cymru amdano unwaith eto, wedi iddo dderbyn nifer o wobrwyon am ei berfformiadau euraidd y tymor diwethaf.

Bydd Jamie Roberts hefyd yn dychwelyd i'r tîm wedi cyfnod yn gwella o anaf.

Ni fydd y Capten, a chanolbwynt llawer o drafod ym myd rygbi yn ddiweddar, Sam Warburton yn dechrau, ond mae Dan Lydiate wedi dychwelyd o Ffrainc, wedi iddo fynd yno ar gyfer genedigaeth ei ferch yn gynharach yn yr wythnos.

Mae Jamie Roberts, sydd wedi ennill pob un o'i 53 o gapiau dan arweiniad Gatland, wedi rhoi ei ffydd yn yr hyfforddwr i gael y gorau o'r garfan unwaith eto, wrth iddyn nhw geisio creu hanes.

"Mae Warren yn ddyn gonest iawn hefo'r chwaraewyr," meddai'r canolwr.

"Bydd yn dweud wrthych chi os ydych chi wedi chwarae yn dda neu'n wedi chwarae yn ofnadwy.

"Mae hynny yn digwydd yn gyson yn yr amgylchedd y mae wedi ei greu yma, mewn sesiynau ymarfer, gemau neu ddadansoddiad ar ôl y gemau.

"Mae wedi creu cryfder yn y garfan ac mae'n denu'r gorau o bawb."

Image copyright AP
Image caption Cipiodd Cymru y deitl gyda buddugoliaeth o 30-3 yn erbyn Lloegr yn 2013

Chwaraewyr newydd i'r Eidal

Os yw'r Azzurri am efelychu eu dechrau da yn y gystadleuaeth eto eleni, bydd rhaid iddyn nhw wneud hynny heb nifer o chwaraewyr profiadol.

Dim ond saith o gapiau sydd gan y maswr, Tommaso Allan, yr asgellwyr Angelo Esposito a Michele Campagnaro a'r canolwr Leonardo Sarto rhyngddyn nhw.

Ond er hynny, mae digon o brofiad ymysg y blaenwyr, gyda Mauro Bergamasco, Martin Castrogiovanni a Sergio Parisse, fydd yn ennill ei 102ail gap.

Mae'r hyfforddwr, Jacques Brunel wedi annog ei chwaraewyr i fod yn gryf wrth amddiffyn, gan ddweud mai ymosodwyr Cymru yw rhai o'r goreuon yn Ewrop.

Ond mae Cymru yn ymwybodol y bydd rhaid iddyn nhw chwarae'n dda i gael y gorau o'r Eidalwyr.

"Mae'r Eidal wedi gwella yn fawr," meddai Roberts.

"Fe wnaeth hi gymryd 60 neu 70 o funudau i ni dorri nhw i lawr dwy flynedd yn ôl, a llynedd roedd hi'n bwrw'n drwm iawn yn Rhufain. A bydd hi'n debyg iawn y penwythnos yma.

"Rydyn ni wedi bod hefo'n gilydd ers cyfnod hir ac mae'r chwaraewyr yn gwybod y ffordd o chwarae. Mae angen i ni addasu'r steil yna a chwarae ein gorau ddydd Sadwrn.

Image copyright Getty Images
Image caption Alun Wyn Jones fydd capten Cymru ddydd Sadwrn, wrth i Sam Warburton ddechrau ar y fainc

'Pwysig chwarae hefo hyder'

"Mae'n bwysig ein bod ni yn mynd allan a chwarae hefo hyder, a chredu mai ni yw'r pencampwyr.

"Mae'n bwysig ein bod ni yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar y cae, a dangos steil ein hunain fel chwaraewyr."

Gyda'r tywydd gwael yn parhau, bydd to Stadiwm y Mileniwm ar gau ar gyfer y gêm.

Mae'r gwledydd wedi wynebu ei gilydd 20 o weithiau, gyda Chymru yn fuddugol yn 17 o'r gemau hynny.

Dwywaith yn unig mae'r Eidal wedi curo Cymru, a hynny yn Rhufain, ond nid ydyn nhw wedi llwyddo i guro'r Cymry ers 2007.

Er hynny, bydd tîm Warren Gatland yn awyddus i osgoi dechrau tebyg i'r gystadleuaeth y llynedd, pan gollon nhw yn erbyn Iwerddon.

Yn yr un modd fe gurodd yr Eidal eu gêm gyntaf nhw'r llynedd yn erbyn Ffrainc, cyn gorffen y gystadleuaeth gyda buddugoliaeth dros Iwerddon.

Bydd y gic gyntaf am 2.30yh.

Cymru v Yr Eidal, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2014; 2.30yh, Chwefror 1.

Cymru: L Halfpenny; A Cuthbert, S Williams, J Roberts, G North; R Priestland, M Phillips; P James, R Hibbard, A Jones, L Charteris, A-W Jones (capt), D Lydiate, J Tipuric, T Faletau.

Eilyddion: K Owens, R Bevington, R Jones, A Coombs, S Warburton, R Webb, J Hook, L Williams.

Yr Eidal: L McLean; A Esposito, M Campagnaro, A Sgarbi, L Sarto; T Allan, E Gori; M Rizzo, L Ghiraldini, M Castrogiovanni, Q Geldenhuys, M Bortolami, A Zanni, M Bergamasco, S Parisse (capt).

Eilyddion: D Giazzon, A De Marchi, L Cittadini, J Furno, F Minto, T Botes, L Orquera, T Iannone.

Dyfarnwr: John Lacey (Iwerddon).

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC