Canlyniadau Cwpan LV nos Wener

Image copyright Huw Evans picture agency

Gweilch 37 - 36 Sale

Daeth y Gweilch yn ol i guro Sale ym Mhen y Bont nos Wener, wedi iddyn nhw fod ar ei hol hi o 15 pwynt ar yr egwyl.

Roedd yr ymwelwyr ar y blaen o 28 - 13 ar yr hanner diolch i dri chais gan Viliami Fihaki o fewn 35 munud ac un gan Charlie Ingall.

Roedd cais Aisea Natoga a chiciau Sam Davies wedi cadw'r Gweilch yn y gêm, a daethon nhw allan yn gryf yn yr ail hanner.

Sgoriodd Natoga ddau arall bob ochr i gais Dan Baker, gan gynnwys y sgôr hollbwysig i gipio'r pwyntiau yn y munudau olaf.

Er hynny, roedd y pwynt bonws i Sale yn ddigon i roi diwedd ar obeithion y Gleision o gyrraedd y rownd nesaf.

Gleision 35 - 5 Harlequins

Nid oedd buddugoliaeth gyfforddus dros yr Harlequins yn ddigon i sicrhau lle i'r Gleision yn rownd gynderfynol Cwpan LV, er mae'n debyg o fod yn hwb i'w hyder cyn iddyn nhw ddychwelyd i'r Pro 12 yr wythnos nesaf.

Roedd nifer o gamgymeriadau wedi bod yn broblem i'r Harlequins, wrth i'r Gleision eu curo o 35-5.

Yr Harlequins gafodd y gorau o'r chwarae yn gynnar yn y gêm, wrth iddyn nhw gael sawl cyfle ymhell yn hanner y Gleision, ond wrth iddyn nhw ymosod fe ddaeth y camgymeriadau yn amlwg.

Daeth y Gleision yn ol i'r gêm yn araf, ac roedd gwobr wedi hanner awr wrth i'r clo Filo Paulo groesi'r linell.

Gwnaeth Gavin Evans y mwyaf o gamgymeriad Ben Botica i sgorio o flaen y pyst i roi'r tîm cartref ymhellach ar y blaen.

Yn yr ail hanner, sgoriodd Dan Fish a Tom Williams, cyn i Marc Breeze gasglu'r bel o waith caled y pac i adio'r bumed yn hwyr yn y gêm.

Newcastle 29 - 0 Dreigiau

Roedd hi'n noson llai calonogol i'r Dreigiau wrth iddyn nhw golli o 29 - 0 yn erbyn Newcastle.

Doedd y Dreigiau methu a chystadlu wrth i Newcastle sgorio pedwar cais heb unrhyw ateb gan y Cymry.

Phil Godman, Fraser McKenzie a Mark Wilson sgoriodd i'r tîm cartref.

I ychwanegu at boen y Dreigiau, cafodd Nick Cudd gerdyn coch ychydig cyn awr o chwarae.